Defynnog
Oddi ar Wicipedia
Pentre bychan ym Mrycheiniog, de Powys, yw Defynnog. Mae'n gorwedd yng nghymuned Maescar, fymryn i'r de o Bontsenni ar groesffordd lle mae'r A4067 o Ystradgynlais yn cwrdd â'r A4215.
I'r de o'r pentref ceir y Fforest Fawr, sy'n ffurfio rhan ganolog Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. I'r dwyrain o'r pentref ceir bryn 400 metr Cefn Llechid. Mae afon Senni yn llifo trwy'r pentref ar ei ffordd i aberu yn afon Wysg ger Pontsenni.
Cysegrir eglwys y plwyf i Sant Cynog, un o feibion Brychan, brenin Teyrnas Brycheiniog. Dethlid gwylmabsant Cynog yr eilfed ddydd Iau o fis Hydref. Ceir piler o garreg yn y llan a Chroes Geltaidd ar ei ben; ceir olion arysgrgif Lladin ac Ogam arno ond mae'n anarllenadwy bellach. Cyfarfu Daniel Rowland a Howel Harris am y tro cyntaf yn yr eglwys hon yn 1737.