Erwd
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Erwd, weithiau Erwyd (Saesneg: Erwood). Saif ar lan orllewinol Afon Gwy ac ar y briffordd A470 i'r de o dref Llanfair ym Muallt. Yma y byddai porthmyn Mynydd Epynt yn croesi'r afon ar eu ffordd i Loegr.
Heblaw pentref Erwd, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi bychain Crucadarn, Gwenddwr, Allt-mawr a Llaneglwys. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 401.