See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Pennant Melangell - Wicipedia

Pennant Melangell

Oddi ar Wicipedia

Pentref bychan ym mryniau Maldwyn, gogledd-orllewin Powys, yw Pennant Melangell. Gorwedd ym mhen uchaf Cwm Pennant tua 2.5 milltir i'r gorllewin o bentref Llangynog. Gorweddai yng nghantref Mochnant yn yr Oesoedd Canol.

Mae afon Tanad, sy'n rhedeg trwy'r cwm, yn tarddu yn uchel ar y bryniau i'r gorllewin o Bennant Melangell.

Enwir y pentref ar ôl Santes Melangell (6ed ganrif neu'r 7fed ganrif), nawddsant y plwyf. Yn ôl traddodiad, roedd yn enedigol o Iwerddon ac yn ferch i frenin. Ffôdd i osgoi priodas oedd wedi ei threfnu iddi gan ei thad, a daeth i Bowys i fyw fel meudwyes yng Nghwm Pennant. Un diwrnod daeth Brochwel (Brochfael), brenin Powys, (Brochwel Ysgithrog efallai) i'r dyffryn i hela. Ymlidiodd ei gŵn hela ysgyfarnog, a redodd at Felangell a llochesu dan ei gwisg. Gwnaeth hyn ddigon o argraff ar Brochwel nes peri iddo roi'r tir yn y cwm iddi, a elwir yn awr yn Bennant Melangell. Daeth Melangell yn abades lleiandy bychan yno.

Yn yr hen eglwys, a gysegrir i'r santes, gellir gweld creirfa Melangell, sydd wedi ei hail-adeiladu wedi iddi gael ei dinistrio adeg y Diwygiad Protestannaidd ac sy'n un o'r esiamplau gorau o'i fath ym Mhrydain ac yn unigryw yn ei chynllun. Ceir cerfluniau o sgwarnogod ar ysgrîn y Grog. Codwyd yr adeilad bresennol yn y 12fed ganrif. Amgylchynir yr eglwys gan llan fawr sy'n cynnwys coed yw hynafol.

Roedd yr eglwys yn gyrchfan boblogaidd i bererinion yn yr Oesoedd Canol, ac yn ddiweddar mae cyngor sir Powys wedi creu llwybr "Pererindod Melangell" yn arwain yno.

[golygu] Cyfeiriadau

  • T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoediadau Glyndŵr, 2001).
  • C. A. Ralegh Radford, 'Pennant Melangell: The Church and the Shrine', Archaeologia Cambrensis, CVIII, 1959.

[golygu] Dolenni allanol


Trefi a phentrefi Powys

Abaty Cwm-hir | Abercraf | Aberedw | Aberhafesb | Aberhonddu | Aberhosan | Aberllynfi | Aber-miwl | Aberriw | Abertridwr | Aberysgir | Betws Cedewain | Bronllys | Bugeildy | Caersws | Capel Isaf | Capel Uchaf | Capel-y-ffin | Carno | Castell Caereinion | Castell Madog | Castell Paun | Cegidfa | Ceri | Y Clas-ar-Wy | Cleirwy | Cnwclas | Commins Coch | Crai | Craig-y-nos | Crossgates | Crucywel | Defynnog | Dolanog | Y Drenewydd | Eisteddfa Gurig | Erwd | Felin-fach | Y Gelli Gandryll | Glantwymyn | Glascwm | Y Groes | Libanus | Llan | Llanafan Fawr | Llanandras | Llanarmon Mynydd Mawr | Llanbadarn Fynydd | Llanbister | Llanbrynmair | Llandrindod | Llandrinio | Llandysilio | Llanddew | Llanddewi yn Hwytyn | Llanddewi Ystradenni | Llanelwedd | Llanerfyl | Llanfair Caereinion | Llanfair Llythynwg | Llanfair-ym-Muallt | Llanfechain | Llanfihangel Nant Brân | Llanfihangel Nant Melan | Llanfihangel Rhydieithon | Llanfihangel-yng-Ngwynfa | Llanfrynach | Llanfyllin | Llangadfan | Llangamarch | Llangatwg | Llangedwyn | Llangors | Llangurig | Llangynidr | Llangynllo | Llangynog | Llangynyw | Llanidloes | Llanigon | Llanllugan | Llanllŷr-yn-Rhos | Llanrhaeadr-ym-Mochnant | Llansantffraed-yn-Elfael | Llansantffraid-ym-Mechain | Llanwddyn | Llanwrin | Llanwrthwl | Llanwrtyd | Llanwyddelan | Llanymynech | Llywel | Llwydiarth | Machynlleth | Manafon | Meifod | Merthyr Cynog | Mochdre | Nantmel | Penegoes | Penisarcwm | Pennant Melangell | Pentref Dolau Honddu | Penybont | Pen-y-bont-fawr | Pilalau | Pont-faen | Pont Llogel | Pontrobert | Pontsenni | Pwllgloyw | Rhaeadr Gwy | Sant Harmon | Sycharth | Talgarth | Tal-y-bont ar Wysg | Tirabad | Y Trallwng | Trecastell | Trefaldwyn | Trefeglwys | Trefyclawdd | Tregynon | Trewern | Walton | Yr Ystog | Ystradgynlais


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -