Llanbister
Oddi ar Wicipedia
Pentref yng nghanolbarth Powys (Sir Faesyfed gynt) yw Llanbister. Mae ar ffordd yr A483 ar ei chyffordd â'r B4356 o Dref-y-clawdd, tua 10 milltir i'r gogledd o dref Llandrindod a 12 milltir i'r de o'r Drenewydd.
Saif Llanbister ar lan ddwyreiniol Afon Ieithon. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Maelienydd.