Llanddewi yn Hwytyn
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Llanddewi yn Hwytyn (Saesneg: Whitton). Saif ger cyffordd y ffyrdd B4357 a B4356, ychydid i'r de o Drefyclawdd. Ychydig i'r gorllewin mae Pilalau neu Pyllalai (Pilleth yn Saesneg), lle enillodd Owain Glyndŵr fuddugoliaeth ym Mrwydr Bryn Glas. Yn 1870 cafwyd hyd i bentyrrau o esgyrn ger eglwys Llanddewi yn Hwytyn; credir mai gweddillion milwyr a laddwyd yn y frwydr oeddynt. Ychydig i'r dwyrain o'r pentref mae Clawdd Offa.
Heblaw pentref Llanddewi yn Hwytyn ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Disgoed, Casgob a Pilalau. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 310.