Machynlleth
Oddi ar Wicipedia
Machynlleth Powys |
|
Mae Machynlleth yn dref yng ngogledd-orllewin Powys, ger aber Afon Dyfi. Ei phoblogaeth yn 2001 oedd tua 2,000. Ei hadeilad enwocaf yw Senedd-dy Owain Glyndŵr.
[golygu] Hanes
Cynhaliodd Owain Glyndŵr senedd ym Machynlleth yn 1404. Yno, yng ngwydd llysgenhadon o Ffrainc, Yr Alban a Sbaen, coronwyd Owain yn Dywysog Cymru.
Mae Caffi Quarry sy nawr ar agor yn y nos (Iau tan Sul), siop Ian Snow, oriel Sbectrwm, oriel MOMA.
Llys Maldwyn yn Heol-y-Doll oedd lleoliad Vane Infant School hyd at 1852.
[golygu] Enwogion
- Llawdden - bardd canoloesol (fl. 1450) a fu'n byw ym Machynlleth
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Machynlleth ym 1937 a 1981. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Machynlleth 1937
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'i chyffiniau 1981