Sbaen
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
Arwyddair: Plus Ultra (Lladin: "Ymhellach Ymlaen”) |
|||||
Anthem: Marcha Real | |||||
Prifddinas | Madrid | ||||
Dinas fwyaf | Madrid | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg (Castileg) 1 | ||||
Llywodraeth | Brenhiniaeth gyfansoddiadol | ||||
• Brenin | Juan Carlos |
||||
• Prif Weinidog | José Luis Rodríguez Zapatero |
||||
Formation •Dynastic Union •Uniad •de facto •de jure |
1516 1716 1812 |
||||
Esgyniad i'r UE | 1 Ionawr 1986 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
504,782 km² (50fed) 1.04 |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2006 - Cyfrifiad 2001 - Dwysedd |
40,847,371 (29fed) 44,187,127 87.2/km² (84fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $1.014 triliwn (12fed) $26,320 (25fed) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.928 (21af) – uchel | ||||
Arian cyfred | Euro (€) 2 (EUR ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
CET 3 (UTC+1) CEST (UTC+2) |
||||
Côd ISO y wlad | .es | ||||
Côd ffôn | +34 |
||||
1 Yn nifer o gymunedau ymreolaethol, mae Catalaneg¹, Basgeg neu Galiseg hefyd yn ieithoedd swyddogol. Yn Val d'Aran (Catalonia) mae gan Araneg (tafodaith Gascon) statws arbennig.
2 Cyn 1999: Peseta Sbaenaidd |
Gwlad yn ne-orllewin Ewrop yw Teyrnas Sbaen neu Sbaen. Mae'n rhannu gorynys Iberia gyda Gibraltar a Phortiwgal, ac mae'n ffinio â Ffrainc ac Andorra yn y gogledd. Madrid yw'r brifddinas. Juan Carlos yw brenin Sbaen.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
Mae Sbaen yn wlad yn ne-orllewin Ewrop sy'n llenwi'r rhan fwyaf o orynys Iberia. Mae hi'n ffinio â Portiwgal i'r gorllewin, Morocco a Gibraltar i'r de, a Ffrainc ac Andorra i'r gogledd dros y Pyreneau.
Ceir llawer o lwyfandiroedd uchel a mynyddoedd fel y Sierra Nevada. Rhed sawl afon o'r ucheldiroedd, Afon Tajo, Afon Ebro, Afon Duero, Afon Guadiana a Guadalquivir, er enghraifft.
[golygu] Hanes Sbaen
Dechreua 'hanes Sbaen gyda dyfodiad Homo sapiens i Benrhyn Iberia a'r diriogaeth sy'n awr yn Sbaen tua 35,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn ddiweddarach, meddianwyd y diriogaeth yn eu tro gan y Celtiaid, y Ffeniciaid a'r Groegiaid. Dechreuodd Gweriniaeth Rhufain feddiannu Sbaen yn y drydedd ganrif CC, ac yn ddiweddarach daeth yn rhan bwysig o'r Ymerodraeth Rufeinig. Wedi cwymp yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, meddiannwyd Sbaen gan y Fisigothiaid. Yn 711 ymosodwyd ar y deyrnas Fisigothig gan fyddin Islamaidd, a chyn pen ychydig flynyddoedd roedd bron y cyfan o Sbaen ym meddiant dilynwyr Islam, heblaw am ran fechan yn y gogledd. Dan yr enw Al-Andalus, datblygodd Sbaen Islamaidd ei diwylliant unigryw ei hun yn ystod y 750 mlynedd nesaf.
Yn rhannol oherwydd ymraniadau'r Mwslimiaid, gallodd y Cristionogion yn y gogledd ddechrau proses o adennill tiriogaeth, a elwir y Reconquista, a ddaeth i ben pan orchfygwyd y deyrnas Islamaidd olaf, Teyrnas Granada. Gyda chwymp dinas Granada yn 1492 dechreuodd cyfnod newydd yn hanes Sbaen, oherwydd yr un flwyddyn hwyliodd Christopher Columbus i'r Byd Newydd. Hyn oedd dechrau Ymerodraeth Sbaen; goresgynnwyd Mexico gan Hernando Cortés (1485 - 1547), a goresgynnodd Francisco Pizarro (1476 - 1541) diriogaeth Periw gan ddinistrio Ymerodraeth yr Inca. Meddiannwyd rhannau helaeth o ganolbarth a de America gyda rhai meddiannau yn Asia ac Affrica hefyd.
Dechreuodd nerth milwrol Sbaen edwino yn y 18fed ganrif, ac yn nechrau'r 19eg ganrif rhoddodd Napoleon ei frawd José Bonaparte ar orsedd Sbaen. Bu gwrthryfel poblogaidd yn erbyn y Ffrancod, a chyda chymorth byddin Brydeinig gyrrwyd hwy o'r wlad. Dilynwyd hyn gan gyfnod o ansefydlogrwydd, a chollodd Sbaen ei meddiannau tramor.
Yn 1936 dechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen, a arweiniodd at fuddugoliaeth Francisco Franco, a fu'n rheoli Sbaen fel unben hyd ei farwolaeth yn 1975. Wedi ei farwolaeth ef, daeth y brenin Juan Carlos I i'r orsedd, a chytunwyd ar gyfansoddiad democrataidd yn 1978. Ymunodd Sbaen a'r Undeb Ewropeaidd, a gwelwyd tŵf economaidd sylweddol. Yn 2002 derbyniwyd yr Euro fel arian.
[golygu] Llywodraeth
Rhennir y wlad yn nifer o Gymunedau ymreolaethol ("Comunidades autonomas" yn Sbaeneg).
|
||
Poblogaeth (2000) |
Poblogaeth (2005) |
|
---|---|---|
Andalucía | 7.340.052 | 7.829.202 |
Aragón | 1.189.909 | 1.266.972 |
Asturias | 1.076.567 | 1.074.504 |
Ynysoedd Balearig | 845.630 | 980.472 |
Canarias (Ynysoedd Dedwydd) | 1.716.276 | 1.962.193 |
Cantabria | 531.159 | 561.638 |
Castilla-La Mancha | 1.734.261 | 1.888.527 |
Castilla y León | 2.479.118 | 2.501.534 |
Catalonia | 6.261.999 | 6.984.196 |
Comunidad Valenciana | 4.120.729 | 4.672.657 |
Extremadura | 1.069.420 | 1.080.823 |
Galicia | 2.731.900 | 2.760.179 |
Comunidad de Madrid | 5.205.408 | 5.921.066 |
Murcia | 1.149.329 | 1.334.431 |
Navarra | 543.757 | 592.482 |
Euskadi (Gwlad y Basg) | 2.098.596 | 2.123.791 |
La Rioja | 264.178 | 300.685 |
|
||
Ceuta | 75.241 | 74.771 |
Melilla | 66.263 | 65.252 |
[golygu] Gweler hefyd
|
|
---|---|
Aelodau | Yr Almaen · Gwlad Belg · Bwlgaria · Canada · Denmarc · Y Deyrnas Unedig · Yr Eidal · Estonia · Ffrainc · Groeg · Hwngari · Gwlad yr Iâ · Yr Iseldiroedd · Latfia · Lithuania · Lwcsembwrg · Norwy · Portiwgal · Gwlad Pwyl · Rwmania · Sbaen · Slofacia · Slofenia · Y Weriniaeth Tsiec · Twrci · Yr Unol Daleithiau |
Ymgeiswyr | Albania · Croatia · Georgia · Gweriniaeth Macedonia |
Gwledydd y Môr Canoldir | |
---|---|
Yr Aifft | Albania | Algeria | Bosnia a Hertsegofina | Croatia | Cyprus | Yr Eidal | Ffrainc | Gwlad Groeg | Israel | Libanus | Libya | Malta | Monaco | Montenegro | Moroco | Palesteina | Sbaen | Slofenia | Syria | Tunisia | Twrci |