Granada
Oddi ar Wicipedia
Mae Granada - Arabeg: غرناطة) yn ddinas yng nghymuned ymreolaethol Andalucia yn Sbaen ac yn brifddinas talaith Granada. Saif wrth droed mynyddoedd y Sierra Nevada, 738 medr uwch lefel y môr. Yn 2005 roedd poblogaeth y ddinas yn 236,982.
Adeilad enwocaf Granada yw'r Alhambra, caer a phalas o'r cyfnod Islamaidd. Oherwydd yr Alhambra a nifer o atyniadau eraill, er enghraifft ar fryn yr Albaicín, mae Granada yn gyrchfan bwysig i dwristiaid. Mae Prifysgol Granada hefyd yn adnabyddus.
Roedd sefydliad yma yn y cyfnod Celtiberaidd, yna bu dinas Roegaidd yma dan yr enw Elibyrge neu Elybirge. Dan y Rhufeiniaid, gelwid hi yn "Illiberis". Cipiwyd y ddinas gan fyddin Islamaidd dan Tariq ibn-Ziyad yn 711. Yn 1013 daeth Granada yn deyrnas annibynnol dan swltan, ac yn 1228 daeth brenhinllin y Nasrid i rym yma. Hwy a adeiladodd yr Alhambra ac adeiladau eraill.
Ar 2 Ionawr 1492, ildiodd y teyrn mwslimaidd olaf, Muhammad XII, a elwid yn Boabdil gan y Cristionogion, y ddinas i fyddin Ferdinand ac Isabella, Los Reyes Católicos ("Y Teyrnoedd Catholig").
Yn y cyfnod diweddar, cysylltir Granada yn arbennig a'r bardd a dramodydd Federico García Lorca. Mae'r Alhambra, y Generalife a'r Albaicín yn Safle Treftadaeth y Byd.