Euskadi
Oddi ar Wicipedia
|
||
Prifddinas | Vitoria (Gasteiz) | |
Ieithoedd swyddogol | Basgeg a Sbaeneg | |
Arwynebedd – Cyfanswm – % o Spaen |
Safle 14eg 7,234 km² 1.4% |
|
Poblogaeth – Cyfanswm (2005) – % o Spaen – Dwysedd |
Safle 7fed 2,109, 741 5.0% 291.44/km² |
|
ISO 3166-2 | IB | |
Lehendakari (Arlywydd) | Juan José Ibarretxe (PNV) | |
Eusko Jaurlaritza / Llywodraeth Euskadi |
Mae'r enwau Euskadi mewn Basgeg neu País Vasco (Gwlad y Basg) yn Sbaeneg yn medru bod a nifer o ystyron gwahanol. Gall olygu y gymuned ymreolaethol o Sbaen a elwir yn Euskal Autonomi Erkidegoa, ond gellir hefyd ei ddefnyddio am yr holl diriogaethau y mae'r Basgiaid yn byw ynddynt, yn cynnwys Navarra a rhan o Ffrainc. Mae'r erthygl yma yn disgrifio'r gymuned ymreolaethol; gweler Gwlad y Basg am yr ystyr arall.
Mae'r diriogaeth yn fynyddig, gyda mynyddoedd y Pyreneau a'r mynyddoedd Cantabraidd. Mae llawer o ddiwydiant yno, ac mae'n un o'r rhannau cyfoethocaf o Sbaen. Rhennir yr Euskal Autonomi Erkidegoa yn dair talaith:
- Álava (Araba). Prifddinas: Vitoria (Gasteiz)
- Guipúzcoa (Gipuzkoa). Prifddinas: San Sebastián (Donostia)
- Vizcaya (Bizkaia). Prifddinas: Bilbao (Bilbo neu Bilbao mewn Basgeg))
Cymunedau ymreolaethol Sbaen | |
---|---|
Cymunedau Ymreolaethol | Andalucía • Aragón • Asturias • Ynysoedd Balearig • Cantabria • Castillia-La Mancha • Castilla y León • Catalonia • Comunidad Valenciana • Euskadi • Extremadura • Galicia • Comunidad de Madrid • Murcia • Navarra • La Rioja • Yr Ynysoedd Dedwydd • |
Dinasoedd ymreolaethol | Ceuta • Melilla |