Vitoria
Oddi ar Wicipedia
Vitoria, neu yn swyddogol Vitoria-Gasteiz, yw prifddinas Euskadi (Gwlad y Basg) a phrifddinas talaith Álava. Daw'r enw Gasteiz o enw'r sefydliad gwreiddiol ar y safle; nid yw'n enw Basgeg ar y ddinas fel y credir gan rai. Roedd y boblogaeth yn 230,585 yn 2005.
Sefydlwyd Vitoria yn 1181 gan Sancho VI, brenin Navarra, fel Nueva Victoria. Yn 1200 daeth yn rhan o Deyrnas Castillia pan gipiwyd y dref gan Alfonso VIII, brenin Castilla. Yn 1431 cafodd yr hawl i'w galw ei hun yn ddinas.
Ymladdwyd Brwydr Vitoria ar 21 Mehefin 1813, pan orchfygwyd byddin o Ffrancwyr gan fyddin dan Ddug Wellington, brwydr a roddodd ddiwedd ar yr ymladd yn Sbaen i bob pwrpas.
Ar 20 Mai 1980, cyhoeddwyd Vitoria yn brifddinas Gwlad y Basg. Mae'r boblogaeth wedi cynyddu yn sylweddol iawn yn y blynyddoedd diwethaf.