Galicia
Oddi ar Wicipedia
|
|||
Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg a Galisieg | ||
Prifddinas | Santiago de Compostela | ||
Anthem genedlaethol | Queixumes dos Pinos | ||
Arwynebedd – Cyfanswm – % o Sbaen |
Safle 7fed 29,574 km² 5.8% |
||
Poblogaeth – Cyfanswm – % o Spaen – Dwysedd |
Safle 5ed 2,760,179 2,9% 93.78/km² |
||
ISO 3166-2 | GA | ||
Arlywydd | Emilio Pérez Touriño (PSdeG-PSOE) | ||
Xunta de Galicia |
Mae Galicia (Galisieg: Galiza), yn un o gymunedau ymreolaethol Sbaen, yng ngogledd-orllewin yr orynys Iberaidd. Mae nifer o ynysoedd megis y Cíes, Ons, Cortegada, Arousa, Sálvora a Vionta yn rhan o Galicia. Ystyrir Galicia yn genedl hanesyddol, fel Catalonia ac Euskadi (Gwlad y Basg).
Mae gan Galicia ei hiaith ei hun, Galisieg, sy'n iaith Rufeinaidd, mwy tebyg i Bortiwgeg na Sbaeneg. Yn ôl astudiaeth ddiweddar defnyddir yr iaith gan tua 80% o'r boblogaeth.
Prif drefi Galicia yw:
- Vigo (poblogaeth 300,000)
- A Coruña (poblogaeth 250,000)
- Ourense (poblogaeth 110,000)
- Santiago de Compostela (poblogaeth 90,000)
- Lugo (poblogaeth 90,000)
- Ferrol (poblogaeth 80,000)
- Pontevedra (poblogaeth 80,000)
Yn economaidd, mae Galicia yn dibynnu i raddau helaeth ar amaethyddiaeth a physgota. Mae twristiaeth hefyd yn elfen bwysig, ac mae miloedd o bererinion yn cyrchu i Santiago de Compostela bob blwyddyn ar hyd y Camino de Santiago.
Cymunedau ymreolaethol Sbaen | |
---|---|
Cymunedau Ymreolaethol | Andalucía • Aragón • Asturias • Ynysoedd Balearig • Cantabria • Castillia-La Mancha • Castilla y León • Catalonia • Comunidad Valenciana • Euskadi • Extremadura • Galicia • Comunidad de Madrid • Murcia • Navarra • La Rioja • Yr Ynysoedd Dedwydd • |
Dinasoedd ymreolaethol | Ceuta • Melilla |