Web Analytics

We provide Linux to the World

ON AMAZON:



https://www.amazon.com/Voice-Desert-Valerio-Stefano-ebook/dp/B0CJLZ2QY5/



https://www.amazon.it/dp/B0CT9YL557

We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Tunisia - Wicipedia

Tunisia

Oddi ar Wicipedia

Al-Jamhūriyyah at-Tūnisiyyah
République Tunisienne

Gweriniaeth Tunisia
Baner Tunisia Arfbais Tunisia
Baner Arfbais
Arwyddair: Trefn, Rhyddid a Chyfiawnder
Anthem: Himat al Hima
Lleoliad Tunisia
Prifddinas Tunis
Dinas fwyaf Tunis
Iaith / Ieithoedd swyddogol Arabeg Ffrangeg
Llywodraeth Gweriniaeth
Arlywydd
Prif Weinidog
Zine El Abidine Ben Ali
Mohamed Ghannouchi
Annibyniaeth
Ennill Annibyniaeth (oddi ar Ffrainc)
Datganiad y Weriniaeth

20 Mawrth, 1956
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
163,610 km² (92eg)
5.0
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Cyfrifiad 1994
 - Dwysedd
 
10,102,000 (78fed)
8,785,711
62/km² (133fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$86.67 biliwn (32ain)
$8,255 (71fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.753 (89eg) – canolig
Arian cyfred Dinar Tunisiaidd (TD) (TND)
Cylchfa amser
 - Haf
CET (UTC+1)
CEST (UTC+2)
Côd ISO y wlad .tn
Côd ffôn +216
Map o Tunisia
Map o Tunisia

Gwlad Arabaidd yng Ngogledd Affrica, sy'n gorwedd rhwng Algeria yn y gorllewin a Libya yn y dwyrain, ac yn wynebu Sisili a de'r Eidal a Môr y Canoldir yn y gogledd yw Gweriniaeth Tunisia neu Tunisia. Ei phrifddinas yw Tunis.

Taflen Cynnwys

[golygu] Daearyddiaeth

Prif erthygl: Daearyddiaeth Tunisia

Lleolir Tunisia ar ran fwyaf gogleddol cyfandir Affrica, ar ganol arfordir y gogledd. Ynys Sicilia yw'r tir Ewropeaidd agosaf, 80km i'r gogledd-ddwyrain dros Gulfor Sicilia. Ar y tir Algeria a Libia yw ei chymdogion. Mae ganddi arfordir 1400km hir ac amrywiol ar y Môr Canoldir.

Porthladd Bizerte
Porthladd Bizerte

Gydag arwynebedd tir o ddim ond 164,000km², Tunisia yw'r wlad leiaf yng Ngogledd Affrica. Mae'n mesur 750km o'r anialwch yn y de i'r Cap Blanc, pwynt mwyaf gogleddol cyfandir Affrica, yn y gogledd, ond dim ond 150km ar ei lletaf o'r dwyrain i'r gorllewin. Yn dopograffyddol mae'r wlad yn ymrannu'n ddwy ardal; y gogledd mynyddig a'r de lled-wastad.

Y prif gadwyn mynydd yw'r Dorsal, sy'n estyniad dwyreiniol i gadwyn hir Mynyddoedd yr Atlas sy'n cychwyn ym Moroco yn Atlas Uchel. Mae'n rhedeg ar gwrs gogledd-ddwyreiniol o Tébessa ar y ffin ag Algeria hyd Zaghouan i'r de o Tunis. Mae'n cynnwys y pwynt uchaf yn y wlad, Jebel Chambi (1544m), i'r gorllewin o Kasserine. Mae'r Dorsal yn gorffen mewn cyfres o fryniau isel yng ngorynys Cap Bon.

Gorwedd y rhan fwyaf o dir amaethyddol da y wlad i'r gogledd o'r llinell hon. Yn hanesyddol hon oedd grawnfa y Rhufain hynafol. Mae'n cynnwys gwastadeddau uchel y Dorsal ei hun, sef y Tell, a dyffryn ffwrythlon afon Medjerda. Afon Medjerda yw'r unig afon barhaol yn y wlad. I'r gogledd o ddyfryn Medjerda ceir mynyddoedd coediog y Kroumirie, sy'n ymestyn ar hyd arfordir y gogledd o'r ffin ag Algeria, ger Tabarka, i gyfeiriad Bizerte, ger Tunis, lle mae'n rhedeg allan mewn gwastadedd arfordirol isel.

Olewydd ger Sfax
Olewydd ger Sfax

I'r de o'r Dorsal ceir ardal eang o wastadedd di-goed, rhwng 200m-400m uwch lefel y môr. Dyma'r Sahel, sy'n enwog am ei holewydd a'i dêts. Ymhellach i'r de mae'r tir yn troi'n fwyfwy sych a cheir sawl chott (llyn halen) yma ac acw. Serch hynny mae'r tir ar hyd yr arfordir yn ffrwythlon lle ceir dŵr ac yn cynnal rhai trefi mawr megis Sousse a Sfax.

I lawr yn y de ei hun mae'r rhan fwyaf o'r wlad yn orchuddiedig gan y rhan ddwyreiniol yr Erg Mawr Dwyreiniol, sy'n llenwi rhan fawr o dde-ddwyrain Algeria yn ogystal ac yn rhan o aniladiroedd y Sahara. Yr unig dir ffrwythlon yw'r gwerddonau a'r stribed o dir ar yr arfordir.

Gweler hefyd:Rhestr dinasoedd a threfi yn Tunisia

[golygu] Hinsawdd

Prif erthygl: Hinsawdd Tunisia

Mae gan ogledd Tunisia hinsawdd sy'n nodweddiadol o'r Môr Canoldir, gyda hafau hir, sych a phoeth a gaeafau cymhedrol a gwlyb. Mae mynyddoedd y Dorsal a Kroumirie yn cael eira weithiau. Wrth fynd i'r de mae'r hinsawdd yn troi'n boethach a sychach gyda phrin modfedd o law yn disgyn mewn blwyddyn yn yr Erg Mawr.

[golygu] Hanes

Prif erthygl: Hanes Tunisia

Mae gan Tunisia hanes hir a chyfoethog. Berberiaid oedd y trigolion brodorol. Glaniodd y Ffeniciaid yn yr wythfed ganrif CC a sefydlu dinas Carthago (Carthage) a dyfodd i fod yn un o ddinasoedd grymusaf yr Henfyd gyda thir a dinasoedd yn ei meddiant ar hyd arfordir y Maghreb (Moroco ac Algeria heddiw), yn Sisili, Sardinia a'r Ynysoedd Balearig a dwyrain Sbaen. Yn Tunisia ei hun roedd 'na ddinasoedd pwysig yn Utica, Kerkouane, Hadrametum (Sousse heddiw) a lleoedd eraill.

Yn yr olaf o'r tri Rhyfel Pwnig syrthiodd Carthago a'i chwaer-ddinasoedd yn Tunisia i ddwylo'r Rhufeiniaid. Daeth y rhan fwyaf o Tunisia yn dalaith Rufeinig a elwid Affrica am mai Ifriquiya oedd yr enw brodorol am ogledd Tunisia gan y Berberiaid. Blodeuodd Carthago eto fel dinas Rufeinig a chodwyd nifer o ddinasoedd a threfi eraill sy'n cynnwys rhai o'r safleoedd archaeolegol Rhufeinig gorau yn y byd heddiw, e.e. Dougga, Bulla Regia, El Djem a Sbeitla.

[golygu] Iaith a Diwylliant

Prif erthygl: Diwylliant Tunisia
Y Theatr Ddinesig, Tunis
Y Theatr Ddinesig, Tunis

Mae Tunisia yn wlad ddwyieithog gyda dwy iaith swyddogol, sef Arabeg a Ffrangeg. Arabeg yw mamiaith pawb bron ond mae Ffrangeg yn cael ei siarad yn dda gan bobl sydd wedi derbyn addysg. Defnyddir Ffrangeg i gyd ag Arabeg mewn sefydliadau addysg uwch. Ceir rhaglenni Ffrangeg ar y teledu ac mae radio yn yr iaith yn gwasanaethu'r wlad o Tunis. Cyhoeddir sawl papur newydd a chylchgrawn Ffrangeg yn ogystal. Mae gan Tunisia lenyddiaeth fywiog yn yr iaith Ffrangeg hefyd. Mewn rhannau o'r de a'r dwyrain ceir ychydig o siaradwr iaith Berber.

Mae hanes llenyddiaeth Tunisia yn gyfoethog. Llenyddiaeth Ffrangeg yw'r diweddaraf i ymuno â'i ffrwd. Cyn hynny roedd gan y wlad lenorion yn yr iaith Ffeniceg a'r iaith Ladin. Cynhyrchodd y wlad llenorion enwog fel Terens, Apuleius a Sant Awstin yn ystod y cyfnod clasurol. Arabeg yw iaith bwysicaf hanes llenyddiaeth Tunisia, wrth gwrs, ac yn cynnwys yn ei datblygiad ffigurau fel yr hanesydd enwog Ibn Khaldun. Y llenor diweddar mwyaf dylanwadol oedd Chebbi.

O ran crefydd, mae 99% o'r boblogaeth yn Fwslemiaid ond ceir rhai Cristnogion hefyd, yn arbennig yn nhrefi'r gogledd. Ar un adeg bu gan y wlad boblogaeth bur sylweddol o Iddewon, yn arbennig yn y brifddinas ac yn Djerba, ond ymudodd y mwyafrif ohonynt yn sgîl sefydlu Israel.

[golygu] Economi

Prif erthygl: Economi Tunisia

[golygu] Dolenni Allanol

[golygu] Llywodraeth Tunisia a Newyddion am y wlad

[golygu] Arolygon

[golygu] Twristiaeth ac amryw


Aelodau Cynghrair y Gwledydd Arabaidd
Yr Aifft | Algeria | Bahrain | Comoros | Djibouti | Gwlad Iorddonen | Irac | Kuwait | Libanus | Libya | Mauritania | Moroco | Oman | Palesteina | Qatar | Saudi Arabia | Somalia | Syria | Swdan | Tunisia | UAE | Yemen |


Gwledydd y Môr Canoldir
Yr Aifft | Albania | Algeria | Bosnia a Hertsegofina | Croatia | Cyprus | Yr Eidal | Ffrainc | Gwlad Groeg | Israel | Libanus | Libya | Malta | Monaco | Montenegro | Moroco | Palesteina | Sbaen | Slofenia | Syria | Tunisia | Twrci
Static Wikipedia 2008 (March - no images)

aa - ab - als - am - an - ang - ar - arc - as - bar - bat_smg - bi - bug - bxr - cho - co - cr - csb - cv - cy - eo - es - et - eu - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - frp - fur - fy - ga - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - jbo - jv - ka - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - ms - mt - mus - my - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nn - -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -
https://www.classicistranieri.it - https://www.ebooksgratis.com - https://www.gutenbergaustralia.com - https://www.englishwikipedia.com - https://www.wikipediazim.com - https://www.wikisourcezim.com - https://www.projectgutenberg.net - https://www.projectgutenberg.es - https://www.radioascolto.com - https://www.debitoformativo.it - https://www.wikipediaforschools.org - https://www.projectgutenbergzim.com