Afon Medjerda
Oddi ar Wicipedia
Mae Afon Medjerda (Arabeg: مجردة Oued Medjerda) yn afon sy'n llifo yn bennaf yn Tunisia, gogledd Affrica. Ei hyd yw 416km (350km yn Tunisia).
Mae Afon Medjerda yn tarddu ger Souk-Ahras (dros y ffin yn Algeria) ac yna mae'n llifo i gyfeiriad y dwyrain i aberu yn y Môr Canoldir (ger Gwlff Tunis). I'r gogledd mae mynyddoedd y Kroumirie. Dyma'e afon barhaol fwyaf yn Tunisia, er ei bod yn dioddef gwahaniaethau mawr yn ei maint yn ôl y tymor.
Oherwydd ei thir alwfial, dyffryn Medjerda yw un o'r ardaloedd mwyaf ffrwythlon yn y wlad. Mae dŵr yr afon - sy'n adnodd prin yn y wlad - yn cael ei defnyddio i'r eithaf trwy gyfres o cynlluniau trydan dŵr ac argaeau.
Am ei bod yn afon strategol bywsig mae hi wedi gweld ei rhan o hanes. Ceir dinas Rufeinig Bulla Regia yn y gogledd a dinasoedd Uttica, Carthago a Tunis (Bagradas y Rhufeiniaid) ger eu haber.
[golygu] Dinasoedd a threfi ger ei glannau (Tunisia)
- Tebourba
- Testour
- Béja
- Bou Salem
- Jendouba
- Ghardimaou