Bulla Regia
Oddi ar Wicipedia
Mae Bulla Regia yn ddinas Rufeinig yng ngogledd-orllewin Tunisia. Fe'i lleolir yn nhalaith Jendouba tua 5 milltir i'r gogledd o ddinas Jendouba, wrth droed bryniau'r Kroumirie.
Ceir nifer o gromlechi cynhanesyddol yn y bryniau i'r dwyrain o'r safle, sy'n dyst i fodolaeth cymunedau brodorol Berber yn yr ardal ymhell cyn i'r Rhufeiniaid gyrraedd. Daeth Bulla Regia ei hun i'r amlwg tua'r 5ed ganrif CC pan sefydlwyd tref Bulla yno gan y Carthagwyr fel rhan o'r broses o sefydlu awdurdod ar ddyffryn Medjerda a'i ddatblygu fel ardal amaethyddol a gyfrannai'n sylweddol yn ddiweddarach at y cyflenwad o wenith i ddinas Rhufain.
Ychwanegwyd y teitl Regia i enw'r dref pan ddaeth yn brifddinas i un o'r teyrnasoedd Numidiaidd lleol a flodeuai yn yr ardal am gyfnod dan y Rhufeiniaid ar ôl cwymp Carthago. Dan yr Ymerodraeth Rufeinig bu Bulla Regia yn un o'r dinasoedd mwyaf llewyrchus yn nhalaith Rufeinig Affrica, er na fu erioed yn arbennig o fawr. Cyrhaeddodd ei huchafbwynt yn y ail a'r 3edd ganrif OC pan godwyd y rhan fwyaf o'r adeiladau sydd i'w gweld ar y safle heddiw. Ar ôl i'r Rhufeiniaid ymadael bu dan reolaeth y Bysantiaid am gyfnod a chodwyd caer a basilica (eglwys) ganddynt yno. Rhoddwyd heibio i'r safle ar ôl i'r Arabiaid gwncweru Tunisia yn y 7fed ganrif.
Mae'r safle yn hynod am fod rhai o gyfoethogion y ddinas wedi adeiladu villas dan ddaear yno i osgoi'r gwres yn yr haf. Addurnwyd rhai o'r tai hyn yn goeth gyda lluniau mosaic sydd ymhlith y gorau yn y wlad. Creuwyd cyrtiau agored dan ddaear gyda agoriadau i adael y golau i mewn a phyllau o ddŵr a gerddi bychain o'u cwmpas.
Mae adeiladau nodiadwy eraill yn cynnwys baddondai mawr Memmia, a enwir ar ôl gwraig Septimius Severus, theatr fach lle y credir i Sant Awstin o Hippo bregethu unwaith, temlau i'r dduwies Isis a'r duw Apollo, a forum Rhufeinig sydd mewn cyflwr da.
Ceir amguedfa fechan gyda chasgliad bychan o fosaics a cherfluniau wrth y fynedfa i'r safle, sy'n hawdd i'w gyrraedd o Jendouba. Bulla Regia yw enw'r pentref bychan ar bwys y safle archaeolegol hefyd.
[golygu] Llyfryddiaeth
- K. Dunbabin, The mosaics of Roman North Africa (Rhydychen, 1978)
- Hédi Slim ac eraill (gol.), L'Antiquité, cyfrol I o L'histoire générale de la Tunisie (Éditions Sud, Tunis, 2003)
|
|||
Bulla Regia · Carthago · Chemtou · Dougga · Amffitheatr El Jem · Gigthis · Haïdra · Kerkouane · Makthar · Musti · Oudna · |