See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Chemtou - Wicipedia

Chemtou

Oddi ar Wicipedia

Y fforwm yn Chemtou: credir fod yr adeilad yn y canol, a gloddiwyd yn ddiweddar, yn deml Numidaidd
Y fforwm yn Chemtou: credir fod yr adeilad yn y canol, a gloddiwyd yn ddiweddar, yn deml Numidaidd

Mae Chemtou neu Chimtou yn safle archaeolegol yn nhalaith Jendouba yng ngogledd-orllewin Tunisia, a fu gynt yn rhan o dalaith Rufeinig Affrica. Mae olion y Simitthu hynafol (Simitthus yn y cyfnod Rhufeinig) yn gorwedd 20 km i'r gorllewin o ddinas Jendouba, yn agos i'r ffin ag Algeria, ar groesffordd dwy ffordd hynafol pwysig : un ohonynt yn cysylltu Carthage a Hippo Reggius (Annaba yn Algeria heddiw), a'r llall yn cysylltu Tabraca (Tabarka heddiw) a Sicca Veneria (El Kef heddiw).

Sefydlwyd y ddinas ar ôl i ddyfryn Medjerda gael ei feddianu gan y Numidiaid. Mae'n debyg ei bod yn bodoli eisoes yn y 5fed ganrif CC. Tyfodd yn raddol oherwydd ei lleoliad strategol ar groesffordd llwybrau masnach. Yn nes ymlaen, cododd Micipsa (149-118 CC) deml er cof am ei fab Massinissa, brenin Numidia; defnyddiodd gerrig o'r chwarel leol at y gwaith. Adnabyddid y marmor arbennig o chwarel Chemtou fel "marmor Numidiaidd" (Lladin: marmor numisticus) gan y Rhufeiniaid. Mae o ystod o liwiau delicat sy'n amrywio o felyn i liw rhosyn. Cafodd ei ddefnyddio i godi sawl adeilad pwysig yn Chemtou a'r cylch (temlau a filas yn arbennig), ond roedd yn cael ei allforio i leoedd eraill yn ogystal, hyd at gyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd. Ar ôl i Rufain oresgyn Carthage rhoddwyd yr enw swyddogol Colonia Iulia Augusta Numidica Simitthu ar y ddinas.

Mae'r cloddio gan archaeolegwyr o Tunisia a'r Almaen wedi darganfod olion sylweddol o'r cyfnodau Numidaidd a Rhufeinig, ynghyd â llwybr ffordd arbennig yn rhedeg o Chemtou i Tabarka ar yr arfordir oedd yn caniatau allforio'r marmor. Mae'r adfeilion a welir ar y safle heddiw yn nodweddiadol o ddinasoedd Rhufeinig y cyfnod ac yn cynnwys temlau, baddondai, pont dŵr, amffitheatr, fforwm, tai preifat a thai ar gyfer y gweithwyr yn y chwarel gerllaw lle amcangyfrir fod hyd at fil o ddynion yn gweithio.

Mae amgueddfa arbennig o dda ar y safle, diolch i arian gan yr Almaen, ond prin iawn yw'r ymwelwyr hyd yma gan fod Chemtou mor ddiarffordd.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Hédi Slim ac eraill (gol.), L'Antiquité, cyfrol I o Histoire generale de la Tunisie (Sud Éditions, Tunis, 2003)


Drapeau de la Tunisie Safleoedd archaeolegol Tunisia Antiquités

Bulla Regia · Carthago · Chemtou · Dougga · Amffitheatr El Jem · Gigthis · Haïdra · Kerkouane · Makthar · Musti · Oudna ·
Pheradi Majus · Sbeïtla · Thapsus · Thuburbo Majus · Utica


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -