Cynhanes
Oddi ar Wicipedia
Cyfnodau cynhanes | ||||
H | La Tène | Protohanes | ||
Hallstatt | ||||
Oes yr Haearn | ||||
Oes ddiweddar yr Efydd | ||||
Oes ganol yr Efydd | ||||
Oes gynnar yr Efydd | ||||
Oes yr Efydd | ||||
Chalcolithig | ||||
Neolithig | Cynhanes | |||
Mesolithig | ||||
P | Paleolithig diweddar | |||
Paleolithig canol | ||||
Paleolithig cynnar | ||||
Hen Oes y Cerrig | ||||
Oes y Cerrig |
Cynhanes yw'r term a ddefnyddir i gyfeirio at y cyfnod maith cyn ymddangosiad y cofnodion ysgrifenedig cyntaf, mewn cyferbyniaeth â hanes. Mae hanes yn tynnu ar ffynonellau ysgrifenedig felly, tra bod cynhanes yn dibynnu ar dystiolaeth archaeolegol. Mae ei hyd a'i barhâd yn amrywio o le i le yn y byd.
Yn Ewrop y cyfnodau traddodiadol ar gyfer cynhanes yw:
- Oes y Cerrig (sy'n dechrau gydag ymddangosiad cyntaf y ddynolryw)
- Hen Oes y Cerrig, neu'r cyfnod Paleolithig
- Oes Ganol y Cerrig, neu'r cyfnod Mesolithig
- Oes Newydd y Cerrig, neu'r cyfnod Neolithig
- Oes yr Efydd
- Oes yr Haearn