See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Bizerte - Wicipedia

Bizerte

Oddi ar Wicipedia

Hen harbwr Bizerte
Hen harbwr Bizerte

Dinas a phorthladd yng ngogledd Tunisia ar lan y Môr Canoldir yw Bizerte. Gorwedd 66 km i'r gogledd-orllewin o'r brifddinas, Tunis, tua dwy filltir i'r de o'r Cap Blanc, pwynt mwyaf gogleddol cyfandir Affrica. Mae ganddi boblogaeth o tua 111,000. Bizerte yw prifddinas a chanolfan weinyddol talaith Bizerte.

Sefydlwyd dinas yno gan y Ffeniciaid yn yr 8fed ganrif CC fel Hippo Zarytus, y mwyaf gogleddol o'u porthladdoedd, a chafodd ei datblygu eto dan reolaeth Carthago. Y Carthaginiaid oedd y cyntaf i gloddio camlas i gysylltu Llyn Bizerte, i'r de o'r ddinas, a'r môr. Agorwyd felly un o'r harbwrs gorau yn y Môr Canoldir sy'n dal i fod yn brysur heddiw. Cafodd Bizerte ei meddianu yn ei thro gan y Rhufeiniaid, y Bysantiaid, yr Arabiaid (a newidiasant yr enw i Bizerte), y Sbaenwyr, yr Otomaniaid a'r Ffrancod. Dan yr Otomaniaid roedd Bizerte yn ganolfan i'r corsairs Mwslemaidd ac adeiladwyd tref newydd (la ville nouvelle) a phorthladd milwrol yno gan Ffrainc yn y 19eg ganrif. Oherywdd ei phwysigrwydd milwrol bu'r Ffrancod yn gyndyn iawn i ollwng eu gafael ar y ddinas a fu'r olaf i gael ei rhyddhau yn 1963, saith mlynedd ar ôl Rhyfel Annibyniaeth Tunisia, ar gost o fwy na fil o fywydau i'r Tunisiaid. Heddiw mae'n ganolfan weinyddol a masnachol. Er bod y porthladd yn bwysig o hyd mae twristiaeth yn dechrau datblygu hefyd, er nad ar raddfa fawr eto. Prif atyniadau'r ddinas yw'r hen harbwr, y kasbah a medina gerllaw, a thraethau'r gogledd.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -