Sardinia
Oddi ar Wicipedia
Sardinia (Eidaleg: Sardegna) yw'r ail fwyaf o'r ynysoedd yn y Môr Canoldir, gydag arwynebedd o 24090 medr sgwar. Saif ger arfordir gorllewinol yr Eidal, i'r de o Ynys Cors. Yn wleidyddol, mae'n rhan o'r Eidal gyda mesur o hunanlywodraeth.
Tua 1500 CC, galwyd yr ynys yn Hyknusa (Lladin: "Ichnusa") gan y Mycenaeaid, efallai yn golygu ynys (nusa) yr Hyksos, oedd newydd gael eu gyrru o'r Aifft. Cafodd ei henw presennol o enw'r Shardana, un arall o'r bobloedd a ymosododd ar yr Aifft, ond a orchfygwyd gan Ramesses III tua 1180 CC).
Cynnabyddir pobl Sardinia gan lywodraeth yr Eidal fel "popolo", sef pobl ar wahan. Mae'n un o ddau ranbarth o'r Eidal sydd a'r statws yma; y llall yw Veneto. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 1,655,677. Y brifddinas yw Cagliari.
Mae gan yr ynys draddodiad cerddorol cryf, a cheir yno iaith gynhenid, Sardineg.
Rhanbarthau 'r Eidal | |
---|---|
Abruzzo | Basilicata | Calabria | Campania | Emilia-Romagna | Lazio | Liguria | Lombardia | Marche | Molise | Piemonte | Puglia | Toscana | Umbria | Veneto | |
Friuli-Venezia Giulia | Sardegna | Sicilia | Trentino-Alto Adige | Val d'Aosta |