See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Djerba - Wicipedia

Djerba

Oddi ar Wicipedia

un o draethau Djerba
un o draethau Djerba

Ynys yn y Môr Canoldir oddi ar arfordir deheuol Tunisia yw Djerba (hefyd Jerba neu Gerba) gyda arwynebedd o 510 Km² (197 milltir sgwâr, ychydig bach yn llai nag Ynys Môn). Hon yw ynys fwyaf Gogledd Affrica. Mae'r ynys i gyd yn dir lled-anial gyda rhyw 1,500,000 palmwydden ddatys a rhyw 500,000 olewydden yn tyfu. Mae ganddi filltiroedd o draethau o dywod mân. Prin iawn fydd hi'n glawio. Yn y gaeaf fe fydd y tymheredd yn gostwng yn llym fin nos, ond fydd hi ddim yn rhewi.

Yn ôl mytholeg Roeg, Djerba odd gwlad y Lotophagi (bwytawyr y lotus - ffrwyth chwedlonol). Yn ôl y chwedl, roedd pwy bynnag oedd yn bwyta'r ffrwyth yn colli pob hiraeth am gartref. Fe gynigodd y Lotophagi y ffrwythau i ddynion Odysseus.

Meninx oedd enw Djerba yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Fe adeiladodd y Rhufeiniaid sarn i gysylltu'r ynys a chyfandir Affrica.

Mae gan Djerba boblogaeth o 450,000. Berberiaid yw'r rhan fwyaf ohonyn' nhw. Mae yna gymuned fach Iddewig hefyd. Mae'n debyg wnaeth eu hynafiaid ffoi o Caersalem pan gafodd ei ddinistrio gan Titus yn 70 OC. Y brif dref yw Houmt-Souk (cynaniad: haw-mat-as-SŴG), poblogaeth 8,000. Ieithoedd Djerba yw Arabeg, Ffrangeg a Berber, fel gweddill y Maghreb.

Houmt-Souk
Houmt-Souk

Mae'r rhan fwyaf o dai Djerba yn wyn gyda'r drysau a'r ffenestri wedi'u peintio'n las. Fe fydd y muriau gwyn yn adlewychu gwres yr haul a'r ffenestri glas yn cadw pryfed yn ôl. Mae gweddill Tunisia wedi dynwared y ffasiwn hwn, yn enwedig ym mhentref Sidi Bou Saïd ger Tunis.

Synagog Al-Ghriba yw'r synagog mwyaf prydferth yn ngogledd Affrica. Cafodd y synagog wreiddiol ei sefydlu yn y 6ed ganrif C.C.

Un o ddiwydiannau Djerba yw pysgota ysbwng.

Djerba yw un o'r lleoedd mwyaf distaw yn y byd.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -