Web Analytics

We provide Linux to the World

ON AMAZON:



https://www.amazon.com/Voice-Desert-Valerio-Stefano-ebook/dp/B0CJLZ2QY5/



https://www.amazon.it/dp/B0CT9YL557

We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Ynys Môn - Wicipedia

Ynys Môn

Oddi ar Wicipedia

Ynys Môn
Delwedd:CymruMon.png
Logo y Cyngor
Logo y Cyngor

Sir ac ynys yng ngogledd-orllewin Cymru yw Ynys Môn. Mae'r ynys wedi'i gwahanu oddi wrth y tir mawr gan gulfor Afon Menai. Cysylltir y tir mawr â'r ynys gan ddwy bont, y bont wreiddiol Pont Y Borth a godwyd gan Thomas Telford yn 1826 a'r un fwy, Pont Britannia sydd yn cysylltu yr A55 â'r ynys ynghyd a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Ymhlith yr ynysoedd llai o gwmpas arfordir Môn mae Ynys Gybi, Ynys Seiriol, Ynys Llanddwyn ac Ynys Moelfre. Mae'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac mae Llwybr Arfordirol Ynys Mon yn mynd o'i chwmpas. Er i rannau o'r sir gael ei Seisnigeiddo dros y degawdau diweddar wrth i bobl symud yno i fyw o Loegr a llefydd eraill, erys Môn yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg a gellir cyfrif rhan sylweddol ohoni yn rhan o'r Fro Gymraeg.

Mae'r dref â'r enw hiraf yng Nghymru ar yr ynys, sef Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch. Ond new gwneud ar gyfer y twristiaid ydyw: bydd pobl Môn yn ei alw'n Llanfair neu Llanfairpwll (Llanfair PG yn Saesneg). Mae sioe fawr amaethyddol, Sioe Môn, yn cael ei chynnal ar yr ail Ddydd Llun a Dydd Mawrth yn Awst bob blwyddyn ar gae Primin, sydd yn agos i bentref Gwalchmai.

Taflen Cynnwys

[golygu] Môn Mam Cymru

Ers canrifoedd lawer mae'r ynys yn adnabyddus fel "Môn Mam Cymru". Ceir y cyfeiriad cynharaf at yr enw sydd ar glawr yn y llyfr Hanes y Daith Trwy Gymru (1188) gan Gerallt Gymro:

Y mae Môn yn ddaear sych a charegog, yn afluniaidd iawn ac anhyfryd yr olwg; yn debyg iawn, yn ei hansawdd allanol, i wlad Pebidiog, sydd yn ffinio ar Dyddewi, eithr yn dra gwahanol iddi, er hynny, yng nghynhysgaeth fewnol ei natur. Canys y mae'r ynys hon yn anghymharol fwy cynhyrchiol mewn grawn gwenith na holl ardaloedd Cymru: yn gymaint felly ag y mae'n arfer diarhebu'n gyffredin yn yr iaith Gymraeg, "Môn Mam Cymru". Oherwydd pan fyddo'r holl ardaloedd eraill ymhobman yn methu, y mae'r wlad hon, ar ei phen ei hun, yn arfer cynnal Cymru i gyd â'i chnwd bras a thoreithiog o ŷd. (Gerallt Gymro, Hanes y Daith Trwy Gymru).

[golygu] Hanes Ynys Môn

Priordy Penmon: y ffreutur a'r man cysgu
Priordy Penmon: y ffreutur a'r man cysgu

Ymosododd y Rhufeiniaid ar Ynys Môn am ei fod yn fangre lle yr oedd ei gelynion yn gallu cael lloches. Yr oedd y Derwyddon yn arwydd o wrthwynebiad gwleidyddol iddynt, ac roedd yno ysguboriau grawn i borthi ei gelynion. Yn ogystal yr oedd posibilrwydd cael copr yno. Mae'r hanesydd Rhufeinig Tacitus yn disgrifio brwydr waedlyd ar yr ynys yn 60 neu 61 O.C. pan groesodd byddin dan Gaius Suetonius Paulinus dros Afon Menai mewn cychod a chipio'r ynys. Yn ôl Tacitus roedd yr ynys o bwysigrwydd mawr i'r Derwyddon, ac efallai fod cysylltiad rhwng hyn a'r casgliad mawr o arfau a chelfi eraill a ddarganfuwyd yn Llyn Cerrig Bach. Credir fod y rhain wedi eu gosod yn y llyn fel offrymau.

Ymhlith y seintiau y cysegrwyd eglwysi iddynt mae Cybi, Seiriol, Dona ac wrth gwrs Dwynwen, santes cariadon Cymru, y ceir ei heglwys ar Ynys Llanddwyn.

Pan oedd Tywysogion Cymru yn ymladd yn erbyn y gelyn roeddent yn aml yn dibynnu ar Ynys Môn am eu cyflenwad o ŷd. Oherwydd bod ŷd yn tyfu yno roedd nifer o felinau gwynt ar yr ynys flynyddoedd yn ôl. Yr oedd prif lys tywysogion Gwynedd yn Aberffraw.

Adeiladodd Edward I, Brenin Lloegr gastell yn Biwmares i'w helpu i ddal ei afael ar yr ynys.

Bu llawer o ymladd ar yr ynys adeg y rhyfel cartref rhwng y brenin ac Oliver Cromwell.

Dechreuwyd mwyngloddio copr ym Mynydd Parys ger Amlwch yn 1768, ond mae tystiolaeth fod y Rhufeiniaid wedi darganfod copr yno cyn hynny.

[golygu] Cantrefi a chymydau

Yn yr Oesoedd Canol roedd Ynys Môn yn cynnwys y cantrefi a chymydau canlynol:

[golygu] Cestyll a hynafiaethau

[golygu] Heddiw

Heddiw Llangefni yw prif dref yr ynys.

Mae'r ynys yn Etholaeth Cynulliad ac yn Etholaeth Seneddol ac yn rhan o Rhanbarth Gogledd Cymru i'r Cynulliad Cenedlaethol. Ieuan Wyn Jones (Plaid Cymru) yw Aelod Cynulliad Ynys Môn, ac Albert Owen (Plaid Lafur) yw'r Aelod Seneddol.

[golygu] Cymunedau Môn

Ceir sawl cymuned ym Môn:

[golygu] Eisteddfod Genedlaethol

[golygu] Gefeilldrefi Ynys Môn

[golygu] Geirdarddiad

Mae canlyniadau ymchwiliadau DNA diweddar sy'n cysylltu cyndadau'r Cymry â'r Basgwyr yn codi'r posibilrwydd bod yr enw Môn (Mona yn yr Hen Frythoneg) yn rhannu'r un tarddiad â'r gair Basgeg amona, "nain", yn llythrennol "mam fawr".

[golygu] Gweler hefyd

[golygu] Cysylltiadau allanol


Trefi a phentrefi Môn

Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Bodedern | Bodewryd | Bodffordd | Bryngwran | Brynrefail | Brynsiencyn | Brynteg | Caergeiliog | Caergybi | Carreglefn | Cemaes | Cerrigceinwen | Dwyran | Y Fali | Gaerwen | Gwalchmai | Heneglwys | Llanallgo | Llanbabo | Llanbedrgoch | Llandegfan | Llandyfrydog | Llanddaniel Fab | Llanddeusant | Llanddona | Llanddyfnan | Llaneilian | Llanfachreth | Llanfaelog | Llanfaethlu | Llanfairpwllgwyngyll | Llanfair-yn-neubwll | Llanfair-yng-Nghornwy | Llan-faes | Llanfechell | Llangadwaladr | Llangaffo | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llanrhuddlad | Llansadwrn | Llanynghenedl | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Penmynydd | Pentraeth | Pentre Berw | Penysarn | Pontrhydybont | Porthaethwy | Porth Llechog | Rhosneigr | Rhosybol | Rhydwyn | Trearddur | Trefor | Tregele


Siroedd a Dinasoedd Cymru

Dinasoedd, Bwrdreisdrefi a Siroedd gweinyddol ers 1996
Abertawe | Blaenau Gwent | Bro Morgannwg | Caerdydd | Caerffili | Casnewydd | Castell-nedd Port Talbot | Ceredigion | Conwy | Gwynedd | Merthyr Tudful | Pen-y-bont ar Ogwr | Powys | Rhondda Cynon Taf | Sir Benfro | Sir Gaerfyrddin | Sir Ddinbych | Sir y Fflint | Sir Fynwy | Sir Fôn | Torfaen | Wrecsam
Siroedd gweinyddol 1974-1996
Clwyd | De Morgannwg | Dyfed | Gorllewin Morgannwg | Gwent | Gwynedd | Morgannwg Ganol | Powys
Y siroedd cyn ad-drefnu 1974
Sir Aberteifi | Sir Benfro | Sir Frycheiniog | Sir Gaerfyrddin | Sir Gaernarfon | Sir Ddinbych | Sir y Fflint | Sir Fynwy | Sir Faesyfed | Sir Feirionnydd | Sir Forgannwg | Sir Fôn | Sir Drefaldwyn


Static Wikipedia 2008 (March - no images)

aa - ab - als - am - an - ang - ar - arc - as - bar - bat_smg - bi - bug - bxr - cho - co - cr - csb - cv - cy - eo - es - et - eu - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - frp - fur - fy - ga - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - jbo - jv - ka - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - ms - mt - mus - my - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nn - -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -
https://www.classicistranieri.it - https://www.ebooksgratis.com - https://www.gutenbergaustralia.com - https://www.englishwikipedia.com - https://www.wikipediazim.com - https://www.wikisourcezim.com - https://www.projectgutenberg.net - https://www.projectgutenberg.es - https://www.radioascolto.com - https://www.debitoformativo.it - https://www.wikipediaforschools.org - https://www.projectgutenbergzim.com