Ynys Llanddwyn
Oddi ar Wicipedia
Mae Ynys Llanddwyn yn ynys lanw ger Niwbwrch ar arfordir de-orllewinol Ynys Môn, yng ngogledd Cymru. Mae sarn yn ei chysylltu â'r lan pan fo'r llanw allan. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Menai, cantref Aberffraw.
Cysylltir yr ynys fechan hon â'r Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru. Gellir cyrraedd gweddillion yr eglwys a gysegrir i Ddwynwen trwy ddilyn llwybr gwyrdd ar hyd yr ynys o'r sarn. Mae'r adfeilion yn perthyn i'r 16eg ganrif ond credir bod eglwys hynafol ar y safle cyn hynny. Roedd yr eglwys yn rhan o ofalaeth Eglwys Gadeiriol Bangor a thyfodd yn gefnog gan fod cynifer o bererinion yn ymweld â'r ynys yn yr Oesoedd Canol. Ger yr eglwys mae Ffynnon Ddwynwen; credid fod symudiadau'r pysgod ynddi yn darogan y dyfodol i gariadon.
Ynys lanw yw Ynys Llanddwyn. Gellwch gerdded iddi dros y sarn tywod meddal pan fo'r llanw allan. Mae'n Warchodfa Natur. Ceir nifer o rywogaethau o flodau gwyllt yno, yn cynnwys Pig yr aran (Mynawyd y bugail). Ym mis Hydref mae nifer o adar i'w gweld ar yr ynys, yn cynnwys pibyddion coesgoch a phiod môr. Ym mhen yr ynys mae rhes o fythynnod pysgotwr a dau oleudy. Mae'r baeau bychain yn dywodlyd a braf yn yr haf.
Mae'r golygfeydd oddi yno dros fryniau Eryri a'r Eifl i'r de a'r de-orllewin yn fendigedig.