Menai
Oddi ar Wicipedia
- Mae hon yn erthygl am gwmwd Menai. Gweler hefyd Afon Menai.
Cwmwd Menai oedd un o ddau gwmwd cantref Rhosyr, Môn, yn yr Oesoedd Canol. Fel gweddill yr ynys, yr oedd yn rhan o deyrnas Gwynedd.
Gorweddai cwmwd Menai yng nghongl dde-orllewinol Ynys Môn gydag arfordir ar Afon Menai i'r de-ddwyrain a Bae Caernarfon i'r gorllewin. Ffiniai â chymydau Malltraeth a Llifon yng nghantref Aberffraw i'r gogledd-orllewin, Twrcelyn i'r gogledd, a Dindaethwy, ail gwmwd cantref Rhosyr, i'r dwyrain. Roedd o siâp anwastad gyda llain o dir yn ymestyn i'r gogledd-orllewin rhwng cantref Aberffraw a chwmwd Dindaethwy.
Canolfan gweinyddol y cwmwd, a chantref Rhosyr ei hun, oedd tref Rhosyr (Rhosfair : Niwbwrch heddiw), safle Llys Rhosyr. Sefydlwyd bwrdeistref newydd yno ar ddechrau'r 14eg ganrif pan orfodwyd trigolion Llan-faes i symud yno gan y Saeson.
Rhoddwyd llawer o dir a threfi yn y cwmwd i Abaty Aberconwy ac eglwys Clynnog Fawr gan dywysogion Gwynedd, er enghraifft gan Llywelyn Fawr yn ei siartr i Abaty Aberconwy ar ddiwedd y 12fed ganrif. Roedd eglwys Llangeinwen, ger Rhosyr, yn perthyn i Glynnog ac yn cael ei galw'n Glynnog Fechan.
Yn yr Oesoedd Canol roedd nifer o bererinion o bob cwr o Gymru yn tyrru i gwmwd Menai i ymweld ag eglwys Dwynwen ar Ynys Llanddwyn.
[golygu] Plwyfi
- Llanddaniel Fab (Llanddaniel)
- Llanedwen
- Llanfihangel Ysgeifiog
- Llanffinan
- Llangaffo (Merthyr Caffo)
- Llangefni
- Llangwyllog
- Llanidan
- Rhosyr (Llanddwyn)
- Tregaean
[golygu] Cyfeiriadau
- A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982)
- Melville Richards, 'Rhaniadau'r Canol Oesoedd', yn Atlas Môn (Llangefni, 1972)