Llanfihangel Ysgeifiog
Oddi ar Wicipedia
Plwyf a chymuned yn ne-orllewin Ynys Môn yw Llanfihangel Ysgeifiog. Saif i'r dwyrain o dref Llangefni, ac mae'n cynnwys pentrefi Gaerwen a Pentre Berw, yn ogystal a rhan o Gors Ddyga, sydd yn awr yn warchodfa adar yng ngofal yr RSPB.
Adfail yw hen eglwys Llanfihangel Ysgeifiog. Bu rhywfaint o gloddio am lo ar raddfa fechan yn yr ardal yma o'r 15fed ganrif hyd ddiwedd y 19eg ganrif.