Malltraeth
Oddi ar Wicipedia
Am y pentref o'r un enw gweler Malltraeth (pentref)
Un o ddau gwmwd Cantref Aberffraw ym Môn yn Oes y Tywysogion oedd Malltraeth. Roedd yn gorwedd i'r gogledd o'r cwmwd arall, Llifon ac yn ffinio hefyd â rhan o gwmwd Menai (cantref Rhosyr) yn y de. I'r gorllewin roedd yn wynebu'r môr ac Iwerddon.
Mae Afon Cefni yn rhedeg yn araf trwy'r cwmwd gan mor wastad y tir, gan ffurfio Cors Ddyga. Un enw ar dir felly oedd mall ('pwdr, budr'). Felly 'traeth budr, mwdlyd' yw ystyr yr enw.
Roedd y cwmwd yn cynnwys sawl tref ac amlwd. Ei faenor (prif dref y cwmwd) oedd Aberffraw, safle prif lys hanesyddol brenhinoedd a thywysogion Gwynedd. Ystîl arferol rheolwyr Gwynedd ym mhob cyfnod oedd "Tywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri".
[golygu] Plwyfi
Ceid wyth plwyf yn y cwmwd:
- Llangwyfan
- Llanbeulan
- Heneglwys
- Cerrigceinwen
- Llangristiolus
- Trefdraeth
- Llangadwaladr
- Aberffraw