Llangaffo
Oddi ar Wicipedia
Pentref yng nghanol Ynys Môn ar y ffordd rhwng Pentre Berw a Niwbwrch, lle mae'r ffyrdd B4419 a B4421 yn cyfarfod, yw Llangallo. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Menai, cantref Aberffraw.
Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Sant Caffo, sant o'r 6ed ganrif. Er bod yr eglwys bresennol yn ddiweddar, yn dyddio o'r 19eg ganrif, mae casgliad diddorol o gerrig beddi a chroes hynafol yma. Mae'r garreg hynaf yn dyddio o'r 7fed ganrif, ac yn ôl yr arysgrif armi wedi ei gosod yn ei lle gan ŵr o'r enw Gwerni neu Gwern. Ceir yma groes olwyn yn dyddio o'r 10fed neu'r 11eg ganrif a nifer o gerrig beddau eraill o'r 9fed ganrif hyd y 13eg ganrif. Credir bod mynachlog wedi bod ar y safle yma yn y cyfnod cynnar.
Enw llawn yr ysgol gynradd, a sefydlwyd yn 1854 yw Ysgol Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru Llangaffo.
Trefi a phentrefi Môn |
Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Bodedern | Bodewryd | Bodffordd | Bryngwran | Brynrefail | Brynsiencyn | Brynteg | Caergeiliog | Caergybi | Carreglefn | Cemaes | Cerrigceinwen | Dwyran | Y Fali | Gaerwen | Gwalchmai | Heneglwys | Llanallgo | Llanbabo | Llanbedrgoch | Llandegfan | Llandyfrydog | Llanddaniel Fab | Llanddeusant | Llanddona | Llanddyfnan | Llaneilian | Llanfachreth | Llanfaelog | Llanfaethlu | Llanfairpwllgwyngyll | Llanfair-yn-neubwll | Llanfair-yng-Nghornwy | Llan-faes | Llanfechell | Llangadwaladr | Llangaffo | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llanrhuddlad | Llansadwrn | Llanynghenedl | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Penmynydd | Pentraeth | Pentre Berw | Penysarn | Pontrhydybont | Porthaethwy | Porth Llechog | Rhosneigr | Rhosybol | Rhydwyn | Trearddur | Trefor | Tregele |