Porthaethwy
Oddi ar Wicipedia
Porthaethwy Ynys Môn |
|
Mae Porthaethwy (neu, fel arfer ar lafar, Y Borth) yn dref ar Afon Menai yn ne Ynys Môn. Mae ganddi boblogaeth o 3850 (Cyfrifiad 2001).
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Daw’r enw o Porth + Daethwy, yr olaf yn enw llwyth Celtaidd lleol (gweler hefyd Dindaethwy, enw'r cwmwd lleol yn yr Oesoedd Canol). Sefydlwyd trigfan yma ers canrifoeddd oherwydd hwn yw pwynt culaf Afon Menai, felly yn le croesi cyfleus. Yn y nawfed ganrif dyma lle daeth Tysilio i fyw fel meudwy ar yr ynys fechan sydd bellach yn dwyn ei enw a sefydlu’r eglwys.
Bu fferi yn croesi’r Fenai yma ers canrifoedd: y cofnod cyntaf ohono yn 1292. Parhaodd felly fel un o’r croesfannau pennaf.
Pan agorwyd Pont Y Borth ym 1826, ‘daeth oes i fferi i ben, ond parhaodd cysylltiadau’r Borth a’r môr, gyda masnachwyr yn mewnforio ac allforio, a diwydiant adeiladu llongau lleol. Y llongfasnachwyr pennaf yn y 19eg ganrif oedd teulu Davies o Dreborth.
[golygu] Ffair y Borth
24 Hydref yw diwrnod Ffair y Borth.
Mae’r ffair yn dyddio’n ôl i 1691. Roedd yn ffair geffylau i ddechrau, ac roedd mart prynu a gwerthu anifeiliaid yn rhan annatod o’r ffair hyd at yr 1970au. Bu yn ffair gyflogi hefyd. Roedd yn un o achlysuron mawr y flwyddyn i lawer o werin bobl Môn ac Arfon. Dyma hen bennill amdani:
- 'Mae Ffair y Borth yn nesu,
- Caf deisen wedi ei chrasu,
- A chwrw poeth o flaen y tân,
- A geneth lân i'w charu.'
(Hen Benillion, gol. T. H. Parry-Williams, rhif 218)
Heddiw, mae’r ffair yn parhau i’w chynnal yn flynyddol, fel ffair bleser yn bennaf, sydd yn ôl traddodiad yn cael ei gynnal ar dir cyffredin sy'n gwasanaethu fel maes parcio gweddill y flwyddyn. Ar Hydref 24, diwrnod y ffair, bydd ffyrdd ar gau er mwyn cynnal nifer o stondinau.
[golygu] Y Borth Heddiw
Mae’r dref yn gartref i Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Cymru, Bangor sydd yn defnyddio’r pier i gartrefu’r llong ymchwil, Prince Madog, ac i ysgol uwchradd fwyaf Ynys Môn, Ysgol David Hughes.
Lleolir rhaglen deledu S4C, Rownd a Rownd yma, a’r dref yn cynnwys siopau ffug sy’n setiau deledu pwrpasol ar gyfer y gyfres. Mae’n gartref i fand pres Porthaethwy.
Aiff Llwybr Arfordirol Ynys Mon drwy'r dref.
[golygu] Llyfryddiaeth
Davies, J. M. (2003) Porthaethwy, yn Nabod Môn, golygyddion Jones a Thomas, Gwasg Carreg Gwalch ISBN 0 86381 832 3
[golygu] Cysylltiadau Allanol
Trefi a phentrefi Môn |
Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Bodedern | Bodewryd | Bodffordd | Bryngwran | Brynrefail | Brynsiencyn | Brynteg | Caergeiliog | Caergybi | Carreglefn | Cemaes | Cerrigceinwen | Dwyran | Y Fali | Gaerwen | Gwalchmai | Heneglwys | Llanallgo | Llanbabo | Llanbedrgoch | Llandegfan | Llandyfrydog | Llanddaniel Fab | Llanddeusant | Llanddona | Llanddyfnan | Llaneilian | Llanfachreth | Llanfaelog | Llanfaethlu | Llanfairpwllgwyngyll | Llanfair-yn-neubwll | Llanfair-yng-Nghornwy | Llan-faes | Llanfechell | Llangadwaladr | Llangaffo | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llanrhuddlad | Llansadwrn | Llanynghenedl | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Penmynydd | Pentraeth | Pentre Berw | Penysarn | Pontrhydybont | Porthaethwy | Porth Llechog | Rhosneigr | Rhosybol | Rhydwyn | Trearddur | Trefor | Tregele |