Llanrhuddlad
Oddi ar Wicipedia
Pentref a phlwyf yng ngogledd Môn yw Llanrhuddlad (Llanrhyddlad ar y map OS). Saif ar y briffordd A5025 rhwng Cemaes, tua 4 milltir a hanner i'r gogledd-ddwyrain, a Llanfaethlu, tua 2 filltir i'r de-orllewin.
Enwir yr eglwys a'r plwyf ar ôl y Santes Rhuddlad. Y cwbl a wyddys amdani yw ei bod yn ferch i frenin Leinster, dros y môr yn Iwerddon, yn ôl yr hynafiaethydd Henry Rowlands yn ei gyfrol Mona Antiqua Restaurata (1723).
Mae lôn yn arwain i fae Borth Swtan ar yr arfordir, trwy bentref Rhydwyn, tua 2 filltir i'r gorllewin.
Trefi a phentrefi Môn |
Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Bodedern | Bodewryd | Bodffordd | Bryngwran | Brynrefail | Brynsiencyn | Brynteg | Caergeiliog | Caergybi | Carreglefn | Cemaes | Cerrigceinwen | Dwyran | Y Fali | Gaerwen | Gwalchmai | Heneglwys | Llanallgo | Llanbabo | Llanbedrgoch | Llandegfan | Llandyfrydog | Llanddaniel Fab | Llanddeusant | Llanddona | Llanddyfnan | Llaneilian | Llanfachreth | Llanfaelog | Llanfaethlu | Llanfairpwllgwyngyll | Llanfair-yn-neubwll | Llanfair-yng-Nghornwy | Llan-faes | Llanfechell | Llangadwaladr | Llangaffo | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llanrhuddlad | Llansadwrn | Llanynghenedl | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Penmynydd | Pentraeth | Pentre Berw | Penysarn | Pontrhydybont | Porthaethwy | Porth Llechog | Rhosneigr | Rhosybol | Rhydwyn | Trearddur | Trefor | Tregele |