Llanfaethlu
Oddi ar Wicipedia
Pentref yng ngogledd-orllewin Ynys Môn yw Llanfaethlu. Saif ar y briffordd A5025 rhwng Y Fali a Cemaes. Daw enw'r pentref o enw sant Maethlu, a elwir hefyd yn Maethlu y Cyffeswr.
Nid yw'r pentref ei hun ar lan y môr, ond mae traeth Porth Swtan gerllaw. Mae bwthyn yma o'r enw Swtan sy'n awr yn amgueddfa werin; dywedir mai hwn yw'r bwthyn to gwellt olaf ar yr ynys. Mae plasty Garreglwyd gerllaw yn dyddio o'r 17eg ganrif.
Ymhlith enwogion y pentref mae Siôn Dafydd Rhys, ysgolhaig a meddyg o'r 16eg ganrif oedd a rhan bwysig yn y Dadeni Dysg yng Nghymru.
Trefi a phentrefi Môn |
Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Bodedern | Bodewryd | Bodffordd | Bryngwran | Brynrefail | Brynsiencyn | Brynteg | Caergeiliog | Caergybi | Carreglefn | Cemaes | Cerrigceinwen | Dwyran | Y Fali | Gaerwen | Gwalchmai | Heneglwys | Llanallgo | Llanbabo | Llanbedrgoch | Llandegfan | Llandyfrydog | Llanddaniel Fab | Llanddeusant | Llanddona | Llanddyfnan | Llaneilian | Llanfachreth | Llanfaelog | Llanfaethlu | Llanfairpwllgwyngyll | Llanfair-yn-neubwll | Llanfair-yng-Nghornwy | Llan-faes | Llanfechell | Llangadwaladr | Llangaffo | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llanrhuddlad | Llansadwrn | Llanynghenedl | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Penmynydd | Pentraeth | Pentre Berw | Penysarn | Pontrhydybont | Porthaethwy | Porth Llechog | Rhosneigr | Rhosybol | Rhydwyn | Trearddur | Trefor | Tregele |