Llanallgo
Oddi ar Wicipedia
Mae Llanallgo yn bentref bychan yng ngogledd-ddwyrain Ynys Môn gerllaw Moelfre, ar lôn yr A5025. Y prif atyniad yw Eglwys Sant Gallgo. Dywedir fod Gallgo yn frawd i Gildas, felly gall fod y safle yn dyddio i'r chweched ganrif. Nid oes unrhyw weddillion o'r cyfnod hwnnw i'w gweld; mae'r rhan fwyaf o'r eglwys bresennol yn ganlyniad ail-adeiladu yn y 19eg ganrif.
Daeth Llanallgo i sylw pan ddrylliwyd y llong Royal Charter ar y creigiau gerllaw ym mis Hydref 1859. Ym mynwent Llanallgo y claddwyd y rhan fwyaf o'r cyrff a gafodd eu darganfod, a gellir gweld y beddau a chofeb yn y fynwent. Daeth rheithor Llanallgo ar y pryd, y Parchedig Stephen Roose Hughes, i amlygrwydd hefyd trwy ei ymdrechion yn gofalu am y cyrff, ceisio darganfod pwy oeddynt a chysuro'r teuluoedd. Credir i hyn achosi ei farwolaeth gynamserol ef ei hun yn fuan wedyn. Gellir gweld ei fedd yn y fynwent, ac mae pobl yr ardal yn parhau i ofalu amdano.
Mae nifer o hynafiaethau diddorol gerllaw, yn cynnwys siambr gladdu Lligwy, olion tai Din Lligwy, oedd yn drigfan pennaeth neu uchelwr brodorol yng nghyfnod y Rhufeiniaid a gweddillion Capel Lligwy o'r 12fed ganrif.
Trefi a phentrefi Môn |
Aberffraw | Amlwch | Benllech | Biwmares | Bodedern | Bodewryd | Bodffordd | Bryngwran | Brynrefail | Brynsiencyn | Brynteg | Caergeiliog | Caergybi | Carreglefn | Cemaes | Cerrigceinwen | Dwyran | Y Fali | Gaerwen | Gwalchmai | Heneglwys | Llanallgo | Llanbabo | Llanbedrgoch | Llandegfan | Llandyfrydog | Llanddaniel Fab | Llanddeusant | Llanddona | Llanddyfnan | Llaneilian | Llanfachreth | Llanfaelog | Llanfaethlu | Llanfairpwllgwyngyll | Llanfair-yn-neubwll | Llanfair-yng-Nghornwy | Llan-faes | Llanfechell | Llangadwaladr | Llangaffo | Llangefni | Llangoed | Llangristiolus | Llaniestyn | Llannerch-y-medd | Llanrhuddlad | Llansadwrn | Llanynghenedl | Malltraeth | Moelfre | Niwbwrch | Penmynydd | Pentraeth | Pentre Berw | Penysarn | Pontrhydybont | Porthaethwy | Porth Llechog | Rhosneigr | Rhosybol | Rhydwyn | Trearddur | Trefor | Tregele |