See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Royal Charter - Wicipedia

Royal Charter

Oddi ar Wicipedia

Roedd y Royal Charter yn long hwylio a ddrylliwyd ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn ger pentref Moelfre ar 26 Hydref 1859. Collwyd y rhestr o deithwyr yn y llongddrylliad, felly nid oes sicrwydd am yr union nifer o fywydau a gollwyd, ond gallai fod cyn uched a 459. Dyma'r llongddrylliad a laddodd fwyaf o bobl o bob un ar arfordir Cymru. Collwyd tua 200 o longau llai yn yr un storm.

Adeiladwyd y Royal Charter yng Ngwaith Haearn Sandycroft ar Afon Dyfrdwy a lansiwyd hi yn 1857. Roedd yn fath newydd ar long, llong hwyliau ond gyda pheiriant ager y gellid ei ddefnyddio pan nad oedd gwynt. Defnyddid hi ar y fordaith o Lerpwl i Awstralia, ar gyfer teithwyr yn bennaf ond gyda rhywfaint o le i gargo. Roedd lle i tua 600 o deithwyr. Ystyrid hi yn llong gyflym iawn; gallai wneud y daith i Awstralia mewn llai na 60 diwrnod.

[golygu] Llongddrylliad

Drylliwyd y Royal Charter ar y creigiau hyn ger Moelfre
Drylliwyd y Royal Charter ar y creigiau hyn ger Moelfre

Ddiwedd Hydref 1859 roedd y Royal Charter yn dychwelyd i Lerpwl o Melbourne. Roedd arni tua 371 o deithwyr gyda chriw o tua 112 a rhai pobl eraill oedd yn gweithio i’r cwmni. Roedd llawer o’r teithwyr yn dychwelyd o’r cloddfeydd aur yn Awstralia, a llawer ohonynt yn dod ag aur yn ôl gyda hwy. Roedd llawer o aur hefyd yn cael ei gario fel cargo. Wrth i’r llong gyrraedd arfordir gogledd-orllewin Môn roedd y gwynt yn dechrau codi.

Ceisiodd y Royal Charter godi’r peilot ar gyfer Lerpwl pan oedd gyferbyn a Pwynt Lynas, ond erbyn hyn roedd y gwynt wedi codi i raddfa 10 ar raddfa Beaufort a’r môr yn rhy arw iddi gyfarfod y peilot. Yn ystod noson 25/26 Hydref cododd y gwynt i raddfa 12. Hon oedd Storm y Royal Charter, a achosodd ddifrod enbyd. Ar y cychwyn roedd y gwynt yn chwythu o’r dwyrain, ond yna newidiodd ei gyfeiriad i’r gogledd-ddwyrain ac yna tua’r gogledd, gan yrru’r llong tuag at arfordir dwyreiniol Môn. Am 11 o’r gloch y noson honno gollyngwyd yr angor, ond am hanner awr wedi un ar fore’r 26ain torrodd un o’r ceblau oedd yn ei ddal, yna awr yn ddiweddarach torrodd y llall. Gyrrwyd y Royal Charter tua’r lan, gyda’r peiriant ager yn methu gwneud dim yn erbyn y storm. Ceisiwyd torri’r mastiau i leihau pwysau’r gwynt ar y llong, ond fe yrrwyd y llong ar fanc tywod ger Moelfre. Yn gynnar ar fore’r 26 Hydref, wrth i’r llanw godi, gyrrwyd hi yn erbyn y creigiau rhwng Moelfre a Thraeth Llugwy. Gyda’r gwynt yn ei hyrddio yn erbyn y creigiau, drylliwyd y llong yn ddarnau.

Cofeb y Royal Charter uwchben y creigiau lle drylliwyd hi.
Cofeb y Royal Charter uwchben y creigiau lle drylliwyd hi.

Gallodd un aelod o’r criw, Joseph Rogers, nofio i’r lan gyda rhaff, a defnyddiwyd hon i achub ychydig o bobl, a gallodd ychydig rhagor nofio i’r lan. Bu farw dros 450 o bobl, rhai wedi boddi ond y rhan fwyaf wedi eu lladd trwy gael eu hyrddio yn erbyn y creigiau gan y tonnau enfawr. Achubwyd 21 o deithwyr ac 18 o’r criw, pob un yn ddynion. Ni achubwyd yr un ferch na phlentyn. Ymysg yr aelodau o’r criw a fu farw roedd bachgen oedd yn frodor o bentref Moelfre ei hun, Isaac Lewis.

Dywedir fod llawer o aur wedi ei olchi i’r lan yn y dyddiau nesaf, ac i rai teuluoedd ym Moelfre ddod yn gefnog dros nos. Yr oedd yswiriant o £322,000 ar yr aur yn y cargo, ond roedd y teithwyr yn cario llawr yn ychwaneg.. Claddwyd y rhan fwyaf o’r cyrff ym mynwent Llanallgo gerllaw, lle gellir gweld beddau a chofeb iddynt. Mae hefyd gofeb ger y traeth uwchben y creigiau lle drylliwyd y llong, ger Llwybr Arfordirol Ynys Môn.

Bu rheithor Llanallgo, Stephen Roose Hughes yn eithriadol o brysur yn ceisio rhoi enwau ar y cyrff drylliedig a chysuro’r teuluoedd, ac mae’n debyg i’w ymdrechion arwain at ei farwolaeth ef ei hun yn fuan wedyn. Ymwelodd Charles Dickens ag ef yn fuan ar ôl y llongddrylliad, ac mae’r hanes yn ei gyfrol The Uncommercial Traveller.

Bron union ganrif yn ddiweddarach yn Hydref 1959 drylliwyd llong arall, yr Hindlea, ar yr un creigiau mewn storm arall. Y tro hwn roedd y canlyniad yn wahanol: achubwyd y criw i gyd gan fad achub Moelfre. .

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Charles Dickens, Charles The uncommercial traveller (Dent (Everyman's Library),1911)
  • Jones, T. Llew Ofnadwy Nos. (Llandysul: Gwasg Gomer, 1971). ISBN: 0850881064
  • McKee, Alexander The golden wreck: the tragedy of the 'Royal Charter' (Souvenir Press, 1986) ISBN 0-285-62745-7
Ieithoedd eraill


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -