Afon Dyfrdwy
Oddi ar Wicipedia
Afon yng ngogledd Cymru yw Afon Dyfrdwy. Mae'n llifo o'r bryniau uwchben Llanuwchllyn yn Ngwynedd trwy Lyn Tegid, dros Raeadr y Bedol a thrwy Llangollen. Ger Llangollen, mae Camlas Llangollen (hen enw: Camlas Ellesmere) yn croesi'r afon ar Draphont Pontcysyllte a adeiladwyd gan Thomas Telford ym 1805.
Yn Lloegr, mae dinas Caer ar lan ddwyreiniol yr afon. Mae'n llifo i mewn i'w aber yn fuan wedyn; gelwir yr ardal o gwmpas ei glannau yn Lannau Dyfrdwy.
[golygu] Afonydd llai sy'n llifo i afon Dyfrdwy
- Afon Alun
- Afon Alwen
- Afon Caletwr
- Afon Ceiriog
- Afon Ceirw
- Afon Clywedog
- Afon Gwenfro
- Afon Lliw
- Afon Tryweryn
- Afon Twrch