Traphont Pontcysyllte
Oddi ar Wicipedia
Mae Pontcysyllte yn draphont a ellir ei forio, sy'n cario Camlas Llangollen drost ddyfryn yr Afon Dyfrdwy rhwng pentrefi Trefor a Froncysyllte, i'r dwyrain o Llangollen. Cyflawndwyd adeiladu'r bont yn 1805, ond hon hyd heddiw, yw'r draphont hiraf ac uchaf ym Mhrydain, ac mae'n adeiladwaith sydd wedi ei restru ar Raddfa I Adeiladau Rhestredig. [1]
Aleiladwyd y draphont gan Thomas Telford a William Jessop, mae'n 1,007 troedfedd o hyd, 11 troedfedd o led a 5 troedfedd 3 modfedd o ddyfner. Mae wedi ei gyfansoddi o gafn haearn bwrw wedi ei ddal 126 troedfedd uwchben yr afon gan 19 colofn o waith maen cafn. Mae pop colofn rychwant o 53 troedfedd. Roedd llawer yn amheus o'r adeiladwaith, ond roedd Telford yn hyderus: adeiladodd oleiaf un traphont i'r cynllun hwn gynt (sef Traphont Longdon-on-Tern) ar Gamlas yr Amwythig, mae hon dal iw gweld yn o heddiw yng nghanol cae, er gadawyd y camlas flynyddoedd yn ôl.
Mae'r cymrwd a ddefnyddwyd i'w hadeiladu yn cynnwys calch, dŵr a gwaed ych. Cynhyrchwyd y taflau haearn yn Ffowndri Plas Kynaston, a thaflwyd pob uniad cynffonnog i fewn i'r nesaf. I galchu'r cymalau, defnyddwyr Gwlannen Cymreig wedi ei drochi mewn siwgr berwedig, ac wedyn eu seilio â phlwm. Gadawyd ef am chwe mis i gadarnhau ei fod yn dal dŵr cyn cael ei ddefnyddio.
Yn ran o be'i elwyd yn wreiddiol, Camlas Ellesmere, roedd yn un o gampweithiau cyntaf peirianneg sifil a gyflawnwyd gan y peiriannwr sifil enwog Thomas Telford (a gafodd ei orychwylio gan y pwirannwr camlas mwy profiadol, William Jessop). Cyflenwyd y haearn gan William Hazeldine o'i ffowndri yn Amwythig a gerllaw yng Nghefn Mawr. Agorwyd y draphont ar 26 Tachwedd 1805, ar ôl cymryd tue deng mlynedd a £47,000 iw ddylunio a'i adeiladu.
Mae'r lwybr halio wedi ei gydbwyso drost y cafn, sydd yr un lled a'r draphont i alluogi i gychod cul symyd yn fwy rhydd drost y dŵr. Mae cerddwyr wedi eu amddiffyn gan rheiliau ar un ochr allanol y llwybr, ond ni ddefnyddwyth y tyllau ar gyfer y rheiliau ar ochr arall y llwybr. Gan fod ymyl y cafn ond chwe modfedd uwchben y dŵr, ac felly odan bwrdd y chychod cul, does dim byd rhwng gyrrwr y cwch a disgyniad anferthol i waelod y dyffryn.
Roedd handlen hygyrch yn arfer bod mewn cwtsh ar y llwybr troed yng nghanol y rhychwant canolig, achosi tynnu'r handlen hwn i ddŵr dasgu i lawr i'r afon isod. Gall dal weld y tasgiad pob cwpl o flynyddoedd pan wagir y draphont er mwynt ei chynnal.
Cynnigwyd y draphont fel cyntadleuwr ar gyfer statws Safle Treftadaeth Byd yn 2005, ar ei ail ganmlwyddiant,[2] a cynnigwyd yn swyddogol 2006.[3]
Mae'n rhoi ofn ei chroesi yn ystod gwynt cryf.
[golygu] Dolenni Allanol
- 360 Degree Panoramic View at BBC Shropshire (Java Applet Required)
- Aerial photo at Windows Live Local
- There really is a plug in the bottom! (BBC local news pictures.)
- Wrexham On-line Tour: Pontcysyllte Aqueduct