Cymru
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
Arwyddair: Cymru am byth | |||||
Anthem: Hen Wlad Fy Nhadau | |||||
Ieithoedd swyddogol | Cymraeg, Saesneg | ||||
Prifddinas | Caerdydd | ||||
Dinas fwyaf | Caerdydd | ||||
Brenhines | Elisabeth II | ||||
Prif Weinidog | Rhodri Morgan AC | ||||
Prif Weinidog y DU | Gordon Brown AS | ||||
Ysgrifennydd Gwladol | Paul Murphy AS | ||||
Arwynebedd | 20,779 km² | ||||
Poblogaeth - Cyfrifiad 2001 - Amcangyfrif 2004 - Dwysedd |
2,903,085 2.95 miliwn 140/km² |
||||
Arian breiniol | Punt (£) (GBP) | ||||
Cylchfa amser - Haf: |
UTC UTC +1 |
||||
Blodyn cenedlaethol | Cenhinen, Cenhinen Bedr | ||||
Nawddsant | Dewi Sant |
Mae Cymru (hefyd Saesneg: Wales) yn wlad Geltaidd ac yn un o'r tair gwlad (gyda'r Alban a Lloegr) a'r un dalaith (Gogledd Iwerddon) sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig. Lleolir y wlad yn ne-orllewin Prydain Fawr yn ffinio â Lloegr i'r dwyrain, Môr Hafren a Môr Iwerydd i'r gogledd a'r gorllewin, ac Glannau Dyfrdwy i'r gogledd-ddwyrain. Cymru yw tywysogaeth fwyaf y byd, ond bellach nid yw'r term "tywysogaeth" yn cael ei defnyddio'n aml i'w disgrifio. Cymraeg yw iaith frodorol y wlad ond siaradir Saesneg, sy'n iaith y mwyafrif erbyn heddiw, yn ogystal.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
- Gweler hefyd, Cynhanes Cymru.
Glaniodd Iŵl Cesar ym Mhrydain ym mis Awst 55 C.C., ond ni lwyddwyd i oresgyn Cymru (a oedd, fel gweddill Prydain, yn diriogaeth Geltaidd) am fwy na chanrif wedi hynny. Roedd llwythau Celtaidd Cymru — a oedd, yn ddiwyllianol, yn debyg iawn i'w cymdogion Brythonaidd yn ne Prydain — yn cynnwys y Silwriaid yn de a'r Ordovices yn y gogledd. Fe sefydlodd y Rhufeinwyr gadwyn o amddiffynfeydd dros dde Cymru, cyn belled â Chaerfyrddin (Maridunum). Mae tystiolaeth iddyn nhw fynd ymhellach i'r gorllewin a chroesi i Iwerddon. Adeiladasant 'gaer y lleng' Caerllion (Isca), lle mae'r amffitheatr sydd wedi goroesi orau ym Mhrydain. Roedd y Rhufeiniaid hefyd yn brysur yn y gogledd — mae hen chwedl, Breuddwyd Macsen Wledig, yn dweud i Macsen Wledig, un o ymerawdwyr olaf yr ymerodraeth yn y Gorllewin, briodi Helen ferch pennaeth Cymreig o Segontiwm (Caernarfon gyfoes).
Ni wnaeth yr Eingl-Sacsoniaid orchfygu Cymru, er iddynt dorri'r cysylltiad rhwng Cymru a'r Hen Ogledd ar ôl Brwydr Caer yn 615, oherwydd llwyddiannau milwrol y brenhinoedd Cymreig yn ogystal, wrth gwrs, â'r tirwedd a'r hinsawdd. Adeiladodd Offa, brenin Mercia, glawdd mawr o ddaear ar hyd y ffin rhwng ei freniniaeth a gwlad y Cymry. Mae darnau o Glawdd Offa i'w gweld o hyd heddiw.
Parhaodd Cymru'n wlad Gristnogol ar ôl goresgyn Lloegr gan y tylwythau paganaidd Tiwtonaidd (y Saeson). Fe aeth Dewi Sant ar bererindod i Rufain yn y 6ed ganrif, ac fe weithiodd fel esgob yng Nghymru ymhell cyn y cyrhaeddodd Awstin i drosi brenin Caint a dechrau esgobaeth Caergaint. Ond ni wnaeth y Cymry fawr o ymdrech i ledu Cristionogaeth yn Lloegr, efallai oherwydd yr elyniaeth rhwng y ddwy bobl. Roedd brenhinoedd Cymru fel Rhodri Mawr a Llywelyn ap Gruffudd yn ddigon cryf neu gyfrwys i gadw eu hannibyniaeth.
Ar ddiwedd y 1060au, daeth y Normaniaid i Gymru, gan newid gwleidyddiaeth y wlad. Sefydlwyd arglwyddiaethau Normanaidd Y Mers, rhwng Cymru a Lloegr. Bu bron iawn i Gymru gyfan gael ei gorsegyn ganddynt ond llwyddodd Gruffudd ap Cynan ac Owain Gwynedd i'w hatal, er iddynt ymsefydlu mewn rhannau o'r de ac ardaloedd ar y ffin. Llwyddodd Llywelyn Fawr i osod seiliau Cymru unedig a chyhoeddwyd ei ŵyr Llywelyn ap Gruffudd yn Dywysog Cymru. Ond parhaodd brenhinoedd Lloegr i ymosod ar Gymru trwy gydol y cyfnod. Ym 1282 lladdwyd Llywelyn Ein Llyw Olaf, sef tywysog olaf annibynol Cymru, mewn ysgarmes ger Cilmeri a chipiodd Edward I o Loegr ei deyrnas. Adeiladodd Edward res o gestyll mawr i gadw'r Cymry dan reolaeth - Rhuddlan, Conwy, Caernarfon, Biwmares, a Harlech ydyw'r cestyll enwocaf.
Cafwyd cyfres o wrthryfeloedd yn erbyn llwyodraeth y Saeson o ddiwedd y 13eg ganrif hyd ddiwedd y 15fed ganrif; gan Madog ap Llywelyn (1294-96) a Llywelyn Bren (1316) er enghraifft, ac roedd y Cymry'n disgwyl dychweliad Owain Lawgoch yn y 1370au i ryddhau'r wlad. Cododd Owain Glyndŵr mewn gwrthryfel yn 1400 a chafodd ei gyhoeddi'n Dywysog Cymru, ond marw allan yn raddol wnaeth y gwrthryfel wrth i frenhinoedd Lloegr ailosod eu hawdurdod yn y wlad.
Am ran helaeth o weddill y 15fed ganrif tynwyd Cymru i mewn i Ryfeloedd y Rosynnau a welodd y Lancastriaid a'r Iorciaid yn ymgiprys am rym yn Lloegr. Ond er gwaethaf yr ansefydlogrwydd, fel yn y ganrif flaenorol, blodeuodd diwylliant Cymru ac yn arbennig y Traddodiad Barddol gyda Beirdd yr Uchelwyr yn cael nawdd gan yr uchelwyr Cymreig. Un o'r uchelwyr hyn oedd Harri Tudur, nai Siasbar Tudur a disgynydd i Ednyfed Fychan, distain Llywelyn Fawr. Yn 1485 glaniodd yn Sir Benfro gyda byddin o Ffrancod. Tyrrai nifer o Gymry ato a gorchfygodd Rhisiart III o Loegr ar 22 Awst 1485 ar Faes Bosworth.
Am gyfnod gwellodd sefyllfa'r Cymry. Diddymwyd y deddfau penyd a osodwyd ar y Cymry gan y Saeson ar ddechrau'r ganrif. Dan ei fab Harri VIII cyflwynwyd y Deddfau Uno a roddodd Cymru yn yr un system cyfreithiol a gweinyddol â Lloegr ond a waharddodd yr iaith Gymraeg o fywyd cyhoeddus y wlad. Ar yr un pryd newidiodd Cymru mewn cenhedlaeth neu ddwy o fod yn wlad Gatholig i fod yn wlad Brostestanaidd. Gwelwyd hefyd adfywiad llenyddol - cyfnod y Dadeni Dysg a'r Beibl Cymraeg - ond troes y bonedd fwyfwy Seisnigaidd a thyfai bwlch rhwng arweinwyr cymdeithas a'r werin. Un canlyniad o hynny oedd y mudiadau crefyddol ymneilltuol a ymledai'n gyflym yn ystod y 17eg ganrif a'r 18fed. Dechreuodd Cymru droi'n wlad ddiwydiannol yn ogystal ac erbyn diwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif roedd trefi diwydiannol, chwareli a phyllau glo yn nodwedd amlwg ar fywyd y wlad. Tyfodd llythrenedd ac ymledai'r wasg Gymraeg. Cynyddai'r galw am Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru ac am hunanlywodraeth ac erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd mudiad Cymru Fydd ar ei anterth.
Cymysg fu ffawd y wlad yn ystod y 20fed ganrif. Ond er gwaethaf y Rhyfel Byd Cyntaf, Dirwasgiad Mawr y 1930au, yr Ail Ryfel Byd a'r dirywiad ieithyddol yn y 1970au a'r 1980au, mae Cymru heddiw yn meddu Cynulliad Cenedlaethol ac ymddengys fod yr iaith Gymraeg yn wynebu dyfodol mwy gobeithiol nag a ddychmygid genhedlaeth yn ôl.
[golygu] Gwleidyddiaeth
Mae Cymru yn dywysogaeth ers y drydedd ganrif ar ddeg. Fe'i rheolid yn wreiddiol gan frenhinoedd neu dywysogion annibynnol neu led-annibynnol megis Rhodri Mawr, Llywelyn Fawr, a'i ŵyr Llywelyn ein Llyw Olaf, a fabwysiadodd y teitl Tywysog Cymru ym 1258: cydnabuwyd hyn gan Frenin Lloegr ym 1277 yn unol â Chytundeb Aberconwy. Ar ôl ei goresgyn gan Edward I, mynegwyd y dyhead am annibyniaeth i Gymru yn y 14eg ganrif gan nifer o wrthryfeloedd bychain. Y gwrthrhyfel mwyaf oedd gwrthryfel Owain Glyndŵr a ddechreuodd ym 1400. Curodd gwŷr Glyndŵr lu Seisnig ger Pumlumon ym 1401. Cafodd Glyndŵr ei gyhoeddi yn Dywysog Cymru ag edrychodd am gymorth gan y Ffrancwyr, ond erbyn 1409 roedd gafael y lluoedd Seisnig ar y wlad yn rhy gryf a dirwynodd y gwrthryfel i ben.
Roedd gweddill y 15fed ganrif yn bur ansefydlog hefyd. Ochrai'r rhan fwyaf o'r Cymry â phlaid y Lancastriaid yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau. Uchafbwynt y rhyfeloedd hynny oedd buddugoliaeth Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth yn 1485; diolch i'r cymorth a gafodd gan y Cymry a heidiai i'w gefnogi pan laniodd yn Sir Benfro, trechodd Harri y brenin Rhisiart III a chipiodd goron Lloegr gan gychwyn cyfnod y Tuduriaid.
Yn ystod terynasiad Harri VIII o Loegr, rhannwyd Cymru yn saith sir gan Ddeddf Uno 1536, sef: Brycheiniog, Dinbych, Y Fflint, Morgannwg, Trefaldwyn, Penfro, a Maesyfed, a gwnaethpwyd deddfau Lloegr yn ddeddfau gwlad yng Nghymru.
Mae aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol, a grëwyd ym 1998 ac sy'n cyfarfod yng Nghaerdydd, yn gael eu hethol gan y Cymry. Tywysog Cymru yw'r teitl y mae brenin neu frenhines Prydain yn arfer rhoi i'w mab hynaf, ond nid yw'r tywysog ei hun yn byw yng Nghymru nac yn cymryd rhan yn ei llywodraeth. Y Tywysog Charles yw'r Tywysog Cymru cyntaf ers yr Oesoedd Canol i fedru siarad tipyn bach o Gymraeg.
[golygu] Daearyddiaeth
Crewyd patrwm o 13 o siroedd yng Nghymru ar ôl Deddf Uno 1536: Sir Fôn, Sir Frycheiniog, Sir Gaernarfon, Sir Aberteifi, Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Forgannwg, Sir Feirionnydd, Sir Drefaldwyn, Sir Benfro, Sir Faesyfed, a Sir Fynwy. Y rhain ydyw siroedd hanesyddol Cymru. Yn ad-drefnu llywodraeth leol 1974 crewyd wyth sir weinyddol: Clwyd, Dyfed, Gwent, Gwynedd, Powys, Morgannwg Ganol, De Morgannwg a Gorllewin Morgannwg. Erbyn hyn y rhain yw enwau siroedd seremonïol Cymru. Yn 1996 crewyd 22 o awdurdodau unedol i gymryd lle'r wyth sir weinyddol, a'u henwau yn cynnwys rhai o enwau'r 13 sir hanesyddol a rhai o'r wyth sir weinyddol, a'r ffiniau yn wahanol weithiau. Mae rhai o'r trefi mawrion yn awdurdodau unedol eu hunain e.e. Caerdydd, Abertawe, Wrecsam.
Mae tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru: Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Parc Cenedlaethol Eryri a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Dyfarnwyd i'r cestyll Biwmares, Harlech, Caernarfon, a Chonwy, ym 1986, ac i ardal ddiwydiannol Blaenafon ym 2000, statws Treftadaeth Byd UNESCO .
Gweler hefyd: Rhestr moroedd, baeau a phentiroedd Cymru, Rhestr ynysoedd Cymru, Rhestr mynyddoedd Cymru, Rhestr llynnoedd Cymru, Rhestr afonydd Cymru, Cronfeydd Cymru.
[golygu] Economi
Mae rhannau o Gymru yn ddiwydiannol ers y 18fed ganrif. Mae glo, copr, llechi, ac aur wedi cael eu cloddio yng Nghymru. Roedd y gweithiau haearn ac alcam a'r pyllau glo wedi denu miloedd o fewnfudwyr i'r wlad yn ystod y 19fed canrif, yn enwedig i gymoedd de Cymru. Bu'r mewnfudwyr hyn, y rhan fwyaf ohonynt o Loegr neu Iwerddon, yn allweddol yn y newid iaith a sbardunwyd yn y De-Ddwyrain yr adeg hon, o'r Gymraeg i'r Saesneg.
[golygu] Demograffeg
Cyfrifiad 2001
- Poblogaeth: 2,903,085, Gwryw: 1,403,782 Benyw: 1,499,303
- amcangyfrif canol 2005 (Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol): 2,958,000
[golygu] Lle geni
- Canran y boblogaeth ganwyd yn:
- Cymru: 75.39%
- Lloegr: 20.32%
- Yr Alban: 0.84%
- Gogledd Iwerddon: 0.27%
- Gweriniaeth Iwerddon: 0.44%
[golygu] Grwpiau ethnig
-
- Croenwyn: Prydeining: 95.99%
- Croenwyn: Gwyddelig: 0.61%
- Croenwyn: eraill: 1.28%
- Cymysg: croenwyn a croendu 0.29%
- Cymysg: croenwyn ac asiaidd 0.17%
- Cymysg: eraill: 0.15%
- Asiaidd:
- Indiaidd: 0.28%
- Pacistanaidd: 0.29%
- Bangladeshaidd: 0.19%
- Asiaidd eraill: 0.12%
- Croendu: 0.25%
- Tseiniaidd: 0.40%
- Canran y boblogaeth yn cydnabod eu hunain fel Cymry: 14.39% (Doedd ffurflen y cyfrifiad ddim yn gofyn y cwestiwn hwn ac fe fu llawer o gwyno am hynny. Felly dyma'r canran o bobl a wnaeth ysgrifennu'r wybodaeth hon ar y ffurflen er nad oedd disgwyl iddynt wneud hynny.)
[golygu] Crefyddau
-
- Cristnogol: 71.9%
- Bwdism: 0.19%
- Hindw: 0.19%
- Iddewig: 0.08%
- Moslemaidd: 0.75%
- Sîcaidd: 0.07%
- Crefyddau eraill: 0.24%
- Dim crefydd: 18.54%
- Dim yn dweud: 8.06%
[golygu] Oed y boblogaeth
-
- 0-4: 167,903
- 5-7: 108,149
- 8-9: 77,176
- 10-14: 195,976
- 15: 37,951
- 16-17: 75,234
- 18-19: 71,519
- 20-24: 169,493
- 25-29: 166,348
- 30-44: 605,962
- 45-59: 569,676
- 60-64: 152,924
- 65-74: 264,191
- 75-84: 182,202
- 85-89: 38,977
- 90+: 19,404
[golygu] Gwybodaeth ar yr iaith Gymraeg:
-
- Canran y boblogaeth 3 blwydd oed neu hýn yn deall Cymraeg yn unig: 4.93%
- Canran y boblogaeth 3 blwydd oed neu hýn yn siarad Cymraeg, ond ddim yn ysgrifennu na darllen Cymraeg: 2.83%
- Canran y boblogaeth 3 blwydd oed neu hýn yn siarad a darllen Cymraeg, ond ddim yn ysgrifennu Cymraeg: 1.37%
- Canran y boblogaeth 3 blwydd oed neu hýn yn siarad, darllen, ac ysgrifennu Cymraeg: 16.32%
- Canran y boblogaeth 3 blwydd oed neu hýn gyda rhyw gyfuniad o'r sgiliau hyn : 2.98%
- Canran y boblogaeth 3 blwydd oed neu hýn heb wybodaeth o'r iaith Gymraeg: 71.57%
[golygu] Diwylliant
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
[golygu] Arwyddluniau Cenedlaethol
Defnyddir pob un o'r canlynol fel arwyddluniau swyddogol neu answyddogol o'r genedl Gymreig:
- Baner Cymru (Y Ddraig Goch)
- Y Ddraig Goch
- Cenhinen
- Cenhinen Bedr
- Baner Dewi Sant
[golygu] Cysylltiad allanol
Siroedd a Dinasoedd Cymru | |
Dinasoedd, Bwrdreisdrefi a Siroedd gweinyddol ers 1996 |
Gwledydd Celtaidd | ||
---|---|---|
Gwelwch hefyd: Y Celtiaid |
|
|
---|---|
Gwledydd cyfansoddiadol |
|
Tiriogaethau tramor |
Anguilla · Bermuda · De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De · Gibraltar · Montserrat · Saint Helena (yn cynnwys Ynys Ascension a Tristan da Cunha) · Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig · Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India · Ynysoedd Cayman · Ynysoedd y Falklands · Ynysoedd Pitcairn · Ynysoedd Turks a Caicos · Yr Ynysoedd Virgin Prydeinig |
Tiriogaethau dibynnol y Goron | Jersey · Ynys y Garn · Ynys Manaw |
Ardaloedd Canolfan Sofranaidd | Akrotiri a Dhekelia |