Saesneg
Oddi ar Wicipedia
Saesneg (English) | |
---|---|
Siaredir yn: | Y Deyrnas Unedig a 104 o wledydd eraill. |
Parth: | Gorllewin Ewrop, Gogledd America ac Awstralasia |
Siaradwyr iaith gyntaf: | 402 miliwn (150 miliwn - 1 biliwn fel ail iaith) |
Safle yn ôl nifer siaradwyr: | 3 neu 4 fel mamiaith neu ail yn ôl cyfanswm siaradwyr |
Achrestr ieithyddol: | Indo Ewropeaidd Germaneg |
Statws swyddogol | |
Iaith swyddogol yn: | DU, Canada, Awstralia, Seland Newydd, y rhan fwyaf o wledydd y Gymanwlad, Iwerddon, llawer o daleithiau UDA a llawer gwlad arall |
Rheolir gan: | Neb |
Codau iaith | |
ISO 639-1 | en |
ISO 639-2 | eng |
ISO 639-3 | eng |
Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd |
Iaith frodorol Lloegr ydyw Saesneg (Saesneg: English). Mae'n un o ddwy iaith swyddogol Cymru (ynghyd â'r Gymraeg) yn ogystal, ac yn un o ieithoedd mwyaf y byd.
Datblygodd y Saesneg o iaith y llwythau Germanaidd ag ymsefydlodd yn Prydain rhwng y bumed a'r seithfed ganrif gan ddisodli'r Brythoniaid brodorol o rannau helaeth o dde Prydain a chreu'r teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd. Erbyn y ddegfed ganrif 'roedd y teyrnasoedd hyn wedi uno i greu teyrnas Lloegr. Lledodd y Saesneg drwy'r byd yn sgîl anturiaethau imperialaidd y Saeson a arweiniodd at greu gwladfeydd Seisnig mewn sawl rhan o'r byd.
Oherwydd ei lle fel iaith mwyaf yr Unol Daleithiau, mae Saesneg wedi dod yn brif iaith y byd ar gyfer cyfathrebu rhyngwladol. Dysgir Saesneg fel ail iaith yn amlach nag unrhyw iaith arall, ond y ffurf Americanaidd ar yr iaith a ddysgir yn amlach na'r ffurf Seisnig.
Mae llenyddiaeth Saesneg yn un o'r llenyddiaethau mwyaf yn y byd, a'i gwreiddiau'n gorwedd yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd. Mewn canlyniad i'r dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg a'r Seisnigeiddio yn y wlad, mae gan Gymru ei lenyddiaeth Saesneg hefyd: ysgrifennodd Dylan Thomas ei storïau a'i gerddi yn Saesneg, er enghraifft.
[golygu] Ymadroddion
- Saesneg: English
- Helo: Hello
- Bore da: good morning
- Tara: goodbye
- Os gwelwch yn dda: please
- Diolch: thank you
- Cymraeg: Welsh
- Sut mae?: Alright?
- Sut rydych chi?: How are you?
- Ydw i: I am
- Ble mae'r ysgol?: Where's the school? (Where is the school?)
- Mae wrth y siop: It's by the shop (It is by the shop)
[golygu] Gramadeg Saesneg
Mae gramadeg yr iaith Saesneg yn weddol debyg i'r Gymraeg i gymharu â Tsieiniaidd er enghraifft, gan fod y ddwy iaith yn dod o'r teulu Indo -Ewropeaidd. Serch hyn mae grammadeg y ieithoedd Romawns ac Almaeneg llawer yn fwy tebyg i Saesneg nag yw Cymraeg.