See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Cantrefi a chymydau Cymru - Wicipedia

Cantrefi a chymydau Cymru

Oddi ar Wicipedia

Erthyglau ynglŷn â
Hanes Cymru
Baner Cymru
Cyfnodau

Cyfnod y Rhufeiniaid · Oes y Seintiau
Oesoedd Canol Cynnar · Oes y Tywysogion
Oesoedd Canol Diweddar · Cyfnod y Tuduriaid
17eg ganrif · 18fed ganrif
19eg ganrif · 20fed ganrif
21ain ganrif

Prif deyrnasoedd

Deheubarth · Gwynedd
Morgannwg · Powys

Pobl allweddol

O. M. Edwards · Gwynfor Evans
Hywel Dda · Llywelyn Fawr
Llywelyn Ein Llyw Olaf · Owain Glyndŵr
William Morgan · Harri Tudur

Pynciau eraill

Cantrefi a chymydau · Cynulliad · Datgysylltu'r Eglwys
Llenyddiaeth

Mynegai i erthyglau cysylltiedig
y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Yn ystod y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol roedd Cymru yn cael ei rannu'n wleidyddol yn bedair teyrnas fawr, sef Gwynedd, Powys, Deheubarth a Morgannwg. Roedd eu hanes yn ddigon cyfnewidiol ar adegau, â'u tiriogaeth yn ehangu neu'n crebachu neu'n cael ei rhannu'n unedau llai (fel yn achos Powys a rennid yn Bowys Fadog a Phowys Wenwynwyn, er enghraifft), ond er i'r teyrnasoedd hyn ddiflannu eu hunain yn sgîl dyfodiad y Normaniaid a'r gwncwest Seisnig, goroesodd eu hunedau sylfaenol, sef cantrefi a chymydau Cymru.

Unedau cwbl naturiol, organaidd oedd y rhaniadau Cymreig hyn, seiliedig ar nodweddion y tir yn bennaf. Dichon eu bod yn hŷn yn y bôn na'r hen deyrnasoedd eu hunain ac yn ogystal mae'r rhan fwyaf ohonynt yma o hyd fel unedau eglwysig.

Rhestrir isod y cantrefi a'r cymydau fesul teyrnas draddodiadol, er mwyn hwylustod. Sylwer bod y termau "cantref" a "chwmwd" yn anelwig braidd yn y llyfrau Cyfraith; dichon bod rhai o'r cymydau yn greadigaethau lled-ddiweddar fel unedau gweinyddol.

Taflen Cynnwys

[golygu] Gwynedd (Gwynedd Uwch Conwy)

Teyrnasoedd Cymru yn yr Oesoedd Canol.
Teyrnasoedd Cymru yn yr Oesoedd Canol.

Ar Ynys Môn:

Ar dir mawr Gwynedd:

Ychwanegwyd Cantref Meirionnydd yn 1256. Roedd Dinmael yn rhan o Wynedd yn ddiweddarach yn ogystal.

[golygu] Y Berfeddwlad (Gwynedd Is Conwy)

[golygu] Powys (Powys Fadog a Powys Wenwynwyn)

Map cyffredinol o gantrefi Powys
Map cyffredinol o gantrefi Powys

[golygu] Rhwng Gwy a Hafren

[golygu] Deheubarth

[golygu] Dyfed

[golygu] Ceredigion

[golygu] Ystrad Tywi

[golygu] Brycheiniog

[golygu] De-ddwyrain Cymru (Morgannwg, Glywysing a Gwent)

Mae'r sefyllfa yn y de-ddwyrain yn cael ei gymhlethu gan y ffaith nad oes gennym lawer o fanylion am ffiniau'r terynasoedd cynnar a hefyd am fod y Normaniaid wedi meddianu rhan helaeth yr ardal yn gynnar a chreu eu harglwyddiaethau eu hunain yno.

[golygu] Ardal Morgannwg

  • Cantref Gwrinydd
  • Cantref Gorfynydd
  • Cantref Penychen
    • Glyn Rhondda (Glynrhondda)
    • Meisgyn
  • Cantref Senghennydd (neu'r Cantref Breiniol)
    • Cibwr

[golygu] Gwent

  • Ewias Lacy - cwmwd ar y ffin rhwng Brycheiniog, Gwent a Swydd Henffordd

[golygu] Rhestr cantrefi a chymydau Llyfr Coch Hergest

Yn Llyfr Coch Hergest (1375-1425) ceir rhestr o'r cantrefi a'r cymydau a luniwyd ar ddiwedd y 14eg ganrif, yn ôl pob tebyg.[1] Fodd bynnag, er ei bod yn ddogfen hanesyddol bwysig mae'r rhestr yn codi mwy o broblemau nag y mae'n datrys. Mae'r gwendidau amlwg yn cynnwys y ffaith fod y rhestr yn amwys iawn mewn rhannau ac yn cynnwys enwau lleoedd sy'n anodd i'w dehongli a'u lleoli'n foddhaol. Yn yr adran ar Wynedd, er enghraifft, lleolir Dinmael yn Llŷn a rhennir cantref Arfon yn ddau gwmwd "Is Conwy" ac "Uwch Conwy," ond nid yw Arfon yn gorwedd ar Afon Conwy ac mae'n amlwg fod yr ysgrifennwr wedi camddeall hen raniad sylfaenol teyrnas Gwynedd, sef Gwynedd Uwch Conwy a Gwynedd Is Conwy (rhaniad oedd wedi peidio bod erbyn ei gyfnod ef). Rhaid cofio hefyd fod yr hen drefn wedi ei disodli gan y siroedd newydd dros ran helaeth y wlad. Yn ogystal mae orgraff y rhestr yn eithriadol fympwyol hyd yn oed yn ôl safonau llawysgrifau'r Oesoedd Canol. Rhoddir y testun yma yn yr orgraff wreiddiol gyda'r enwau mewn orfraff safonol lle bo hynny'n ymarferol.

[golygu] Gwynedd

[golygu] Powys

[golygu] Maelienydd

[golygu] Buellt

  • Cantref Buellt
    • Kymwt Penn Buellt (Cwmwd Pen Buellt)
    • Kymwt Swydman (Cwmwd Swyddman : Cwmwd Dinan)
    • Kymwt Treflys (Cwmwd Treflys)
    • Kymwt Is Iruon (Cwmwd Is Irfon)

[golygu] Elfael

[golygu] Brecheinawc (Brycheiniog)

  • Cantref Tewdos
    • Kymwt Dyffryn Hodni (Cwmwd Dyffryn Hoddni)
    • Kymwt Llywel (Cwmwd Llys Hywel)
    • Kymwt Tir Rawlf (Cwmwd Tir Rawlff)
  • Cantref Ida (?Pencelli)
    • Kymwt Ystrat Yw (Cwmwd Ystrad Yw)
    • Kymwt Cruc Howel (Cwmwd Crughywel)
    • Kymwt Evyas (Cwmwd Ewias : Ewias Lacy)

[golygu] Ystrad Tywi

  • Cantref Bychan
    • Kymwt Hirvryn (Cwmwd Hirfryn)
    • Kymwt Perued (Cwmwd Perfedd)
    • Kymwt Iskennen (Cwmwd Is Cennen)
  • Cantref Eginawc (Cantref Eginog)
    • Kymwt Kedweli (Cwmwd Cydweli)
    • Kymwt Carnywyllawn (Cwmwd Carnwyllion)
    • Kymwt Gwhyr (Cwmwd Gŵyr)
  • Cantref Mawr
    • Kymwt Mallaen (Cwmwd Mallaen)
    • Kymwt Caeaw (Cwmwd Caeo)
    • Kymwt Maenawr Deilaw (Cwmwd Maenor Deilo)
    • Kymwt Cetheinawc (Cwmwd Catheiniog)
    • Kymwt Mab Eluyw (Cwmwd Mabelfyw)
    • Kymwt Mab Utryt (Cwmwd Mabudryd)
    • Kymwt Widigada (Cwmwd Gwidigada)

[golygu] Ceredigyawn (Ceredigion)

[golygu] Emlyn

[golygu] Cemeis

  • Cantref Cemeis (Cantref Cemais)
    • Kymwt Uch Neuer (Cwmwd Uwch Nyfer)
    • Kymwt Is Neuer (Cwmwd Is Nyfer)

[golygu] Wartha (Gwarthaf)

  • Cantref Wartha (Cantref Gwarthaf)
    • Kymwt Eluyd (Cwmwd Elfed)
    • Kymwt Derllys (Cwmwd Derllys)
    • Kymwt Pennryn (Cwmwd Penrhyn)
    • Kymwt Estyrlwyf (Cwmwd Ystlwyf)
    • Kymwt Talacharn (Cwmwd Talacharn)
    • Kymwt Amgoet (Cwmwd Amgoed) (neu Henllan Amgoed)
    • Kymwt Peluneawc (Cwmwd Peuliniog)
    • Kymwt y Uelfre (Cwmwd Efelffre)

[golygu] Deugledyf (Deugleddyf)

  • Cantref Deugledyf (Cantref Deugleddyf : Cantref Daugleddau)
    • Kymwt Llan y Hadein (Cwmwd Llan yr Hadain : Cwmwd Llanhuadain)
    • Kymwt Castell Hu (Cwmwd Castell Hu)

[golygu] Pennbrwc (Pembrwc)

  • Cantref Pennbrwc (Cantref Penfro)
    • Kymwt Coet Raff (Cwmwd Coed Raff)
    • Kymwt Maenawrbir (Cwmwd Maenorbŷr)
    • Kymwt Pennbrwc (Cwmwd Penfro)

[golygu] Pebideawc (Pebidiog)

  • Cantref Pebideawc (Cantref Pebidiog)
    • Kymwt Pennkaer (Cwmwd Pen Caer)
    • Kymwt Menew (Cwmwd Mynyw)

[golygu] Ros (Rhos)

  • Cantref Ros (Cantref Rhos)
    • Kymwt Hawlfford (Cwmwd Hwlffordd)
    • Kymwt Kastell Gwalchmei (Cwmwd Castell Gwalchmai)

[golygu] Morgannwc (Morgannwg)

  • Cantref Gorvynyd (Cantref Gorfynydd)
    • Kymwt Rwng Neth a Thawy (Rhwng Nedd a Thawe)
    • Kymwt Tir yr Hwndryt (Cwmwd Tir yr Hwndrwd)
    • Kymwt Rwng Neth ac Avyn (Cwmwd Rhwng Nedd ac Afan)
    • Kymwt Tir yr Iarll (Cwmwd Tir Iarll)
    • Kymwt y Coety (Cwmwd y Coety)
    • Kymwt Maenawr Glynn Ogwr (Cwmwd Maenor Glyn Ogwr)
  • Cantref Penn Ychen (Cantref Penychen)
    • Kymwt Meisgyn (Cwmwd Meisgyn)
    • Kymwt Glyn Rodne (Cwmwd Glyn ?Rhodni?)
    • Kymwt Maenawr Tal y Vann (Cwmwd Maenor Tal y Fan)
    • Kymwt Maenawr Ruthyn (Cwmwd Maenor Rhuthun)
  • Cantref Breinyawl (Y Cantref Breiniol : Cantref Senghennydd)
    • Kymwt Is Caech (Cwmwd Is Caech)
    • Kymwt Uch Caech (Cwmwd Uwch Caech)
    • Kymwt Kibwr (Cwmwd Cibwr)
  • Cantref Gwynllwc (Cantref Gwynllŵg)
    • Kymwt yr Heid (Cwmwd yr Haidd)
    • Kymwt Ydref Berued (Cwmwd y Dref Berfedd)
    • Kymwt Edelygyon (Cwmwd ?Edelygion?)
    • Kymwt Eithyaf (Cwmwd ?Eithaf?)
    • Kymwt y Mynyd (Cwmwd y Mynydd)

[golygu] Cyfeiriadau

  1. J. Gwenogvryn Evans (ed.), The Text of The Bruts from the Red book of Hergest (Oxford, 1890), pp. 407-412

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Wendy Davies, Wales in the Early Middle Ages (Leicester, 1982)
  • Melville Richards, Welsh Administrative and Territorial Units (Caerdydd, 1969)


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -