Ceredigion
Oddi ar Wicipedia
Ceredigion ers 1996 | |
Sir Aberteifi cyn 1974 | |
- Erthygl am Geredigion, un o siroedd Cymru, yw hon. Am y deyrnas ganoloesol gweler Teyrnas Ceredigion. Gweler hefyd Ceredigion (etholaeth seneddol), Ceredigion (etholaeth Cynulliad) a Ceredigion (gwahaniaethu).
Mae Ceredigion yn sir wledig yng ngorllewin Cymru. Mae ganddi boblogaeth o 72,884, a 52% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001). Ei phrif drefi yw Aberystwyth, Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul, Tregaron ac Aberaeron. O ran llywodraeth leol, rhennir Ceredigion yn 51 Cyngor Cymuned a Thref.
Taflen Cynnwys |
Trefi a phrif bentrefi
Tref Aberaeron, Aberporth, Tref Aberteifi, Tref Aberystwyth, Beulah, Blaenrheidol, Borth, Tref Ceinewydd, Ceulanmaesmawr, Ciliau Aeron, Dyffryn Arth, Y Faenor, Llanfihangel Genau'r Glyn, Henfynyw, Llanarth, Llanbadarn Fawr, Tref Llanbedr Pont Steffan, Llancynfelyn, Llanddewi Brefi, Llandyfriog, Llandysiliogogo, Llandysul, Llanfair Clydogau, Llanfarian, Llanfihangel Ystrad, Llangeitho, Llangoedmor, Llangrannog, Llangwyryfon, Llangwyryfon, Llangybi, Llanilar, Llanllwchaiarn, Llanrhystud, Llansanffraid, Llanwenog, Llanwnnen, Lledrod, Melindwr, Nantcwnlle, Penbryn, Pontarfynach, Tirymynach, Trawscoed, Trefeurig, Tref Tregaron, Troedyraur, Y Ferwig, Ysbyty Ystwyth, Ysgubor-y-Coed, Ystrad Fflur ac Ystrad Meurig.
Cestyll
Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion ym 1976. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 1976
Eisteddfod yr Urdd 2010
Yn 2010, bydd eisteddfod blynyddol Urdd Gobaith Cymru yn dod i Geredigion. Hyn yw'r tro gyntaf i hyn ddigwydd ers i eisteddfod Llanbedr Pont Steffan yn 1999.
Dolenni allanol
Gweler hefyd
Siroedd a Dinasoedd Cymru | |
Dinasoedd, Bwrdreisdrefi a Siroedd gweinyddol ers 1996 |