Llanilar
Oddi ar Wicipedia
Tref fechan yng Ngheredigion yw Llanilar, sy'n gorwedd ar yr A485 tua 4 milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth. Mae ganddi 1008 o drigolion, a 60% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).
Mae Afon Ystwyth yn rhedeg heibio i'r pentref. Ar y bryn gerllaw ceir castell mwnt a beili a godwyd gan y Normaniaid.
Mae'r cyflwynydd teledu adnabyddus Dai Jones yn byw ac yn ffermio yn Llanilar.