Llandre
Oddi ar Wicipedia
Pentref yng Ngheredigion ydy Llandre, neu Llanfihangel Genau'r Glyn. Mae'n gorwedd tua 5 milltir i'r gogledd o Aberystwyth, yng ngogledd-orllewin y sir, ar y lôn i'r Borth. Mae'r pentref ar Rheilffordd Arfordir Cymru, ond does dim gorsaf yno. I'r gogledd ceir pentref Dôl-y-bont.
Yr enw traddodiadol ar y pentref a'r gymuned yw Llanfihangel Genau'r Glyn, sy'n tarddu o'i leoliad yn hen gwmwd Genau'r Glyn, a fu'n rhan o gantref Penweddig. Cyn hynny Llanfihangel Castell Gwallter oedd yr enw. Newidiwyd yr enw i Lanfihangel Genau'r Glyn ddiwedd yr 16eg ganrif. Yna, yn y 19eg ganrif, rhoddwyd yr enw cwbwl ddiystyr Llandre ar y pentre; ond parhaodd yr hen enw mewn bri a 'Llanfihangel Genau'r Glyn' a geir gan amlaf mewn llyfrau ar hanes Cymru.[1]
Ymhlith hynafiaethau'r ardal ceir Castell Gwallter, castell mwnt a beili a godwyd gan y Normaniaid tua'r flwyddyn 1110. Saif hanner milltir i'r gorllewin o'r pentref. Ceir yn ogystal fryngaer o Oes yr Haearn ar y bryn i'r dwyrain o'r pentref.
[golygu] Enwogion
- Tom Macdonald, (1900-1980) newyddiadurwr a nofelydd.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Afan ab Alun, Cestyll Ceredigion (Gwasg Carreg Gwalch, 1991).