Ystrad Aeron
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan yn rhan isaf Dyffryn Aeron, de Ceredigion, yw Ystrad Aeron. Gorwedd ar lan ddeheuol afon Aeron tua 6 miltir i'r de-ddwyrain o Aberaeron, hanner ffordd rhwng y dref hwnnw a Llanbedr Pont Steffan. Rhed yr A482 rhwng y pentref.
Yn yr Oesoedd Canol sefydlwyd lleiandy Llanllŷr yno, ond does dim olion i'w gweld ohono heddiw ac mae ei leoliad yn ansicr.