Goginan
Oddi ar Wicipedia
Mae Goginan yn bentref bychan gwledig yng Ngheredigion, tua 6 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth. Saif ar y ffordd A44, rhwng pentrefi Capel Dewi i'r gorllewin a Phonterwyd i'r dwyrain.
Rhed ffrwd Afon Melindwr heibio i Goginan i ymuno yn Afon Rheidol yn is i lawr y cwm.
Ceir hen fryngaer ar y bryn i'r gogledd o'r pentref, yn Hen Oginan.
[golygu] Enwogion
Yn 1749, priododd y llenor a hynafiaethydd Lewis Morris ei ail wraig Ann Lloyd o Benbryn, Goginan. Bu farw ym Mhenbryn, yn 1765. Ganed y llenor a gwleidydd William Ambrose Bebb yng Ngoginan yn 1894.