Llangybi (Ceredigion)
Oddi ar Wicipedia
- Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Llangybi.
Pentref bychan yn ne Ceredigion yw Llangybi. Saif ar yr hen ffordd rhwng Tregaron i'r gogledd a Llanbedr Pont Steffan i'r de, milltir a hanner o bentref Betws Bledrws.
Rhed Afon Dulas heibio i'r pentref i ymuno yn afon Teifi ger Llambed.
Mae Llangybi yn un o dri phentref yng Nghymru sy'n dwyn enw Sant Cybi (6ed ganrif?). Byddai cleifion yn ymolchi yn Ffynnon Gybi ger yr eglwys a chysgu dan gromlech Llech Gybi gerllaw. Roedd y ffynnon yn ymarllwys i bwll gyda seddau o'i gwmpas.[1]
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2001), d.g. Cybi.