Ystrad Meurig
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan a phlwyf uwchben Dyffryn Teifi yng Ngheredigion yw Ystrad Meurig (neu Ystradmeurig). Fe'i lleolir ar y B4340 ar y ffordd rhwng Pontrhydfendigaid i'r dwyrain a Lledrod i'r gorllewin, tua 12 milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth.
Saif y pentref ger tro ar Afon Teifi filltir o'r man lle ymuna ffrwd Afon Meurig yn yr afon honno, ger Cors Caron. Yn ymyl y pentref ceir adfeilion castell Ystrad Meurig a godwyd gan Gilbert de Clare ym 1116. Llosgwyd y castell mwnt a beili hwnnw gan meibion Gruffudd ap Cynan yn 1137; fe'i ailadeiladwyd ond cafodd ei ddinistrio'n derfynnol yn 1199. Ar ben Craig Ystrad Meurig i'r gogledd o'r pentref ceir bryngaer fechan.
Ganwyd y bardd ac ysgolhaig Edward Richard yno ym mis Mawrth 1714. Yno bu'n cadw ysgol elfennol o 1734 hyd ei farwolaeth. Roedd ei ddisgyblion yn cynnwys meibion Lewis Morris, mab William Williams Pantycelyn ac Ieuan Fardd.
[golygu] Ffynonellau
- Afan ab Alun, Cestyll Ceredigion (Llanrwst, 1991)
- T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Llyfrau'r Dryw, 1952)