Llechryd
Oddi ar Wicipedia
Mae Llechryd yn bentref yn Nyffryn Teifi, Ceredigion, tua 3 milltir a hanner i'r de-ddwyrain o Aberteifi.
Saif y pentref ar lan ogleddol afon Teifi ar lôn yr A484 rhwng Castell Newydd Emlyn ac Aberteifi. Ceir pont ar afon Teifi yn y pentref sy'n dwyn y ffordd i Gilgerran ac Abercuch ar y lan ddeheuol.
Llai na milltir i'r dwyrain o Lechryd ceir safle hen blas Maenordeifi (Manordeifi). Glanarberth yw'r enw ar ran o'r pentref, sy'n dwyn cysylltiad ag Arberth (safle llys Pwyll yng nghainc gyntaf y Mabinogi).