Caerwedros (pentref)
Oddi ar Wicipedia
- Erthygl am bentref Caerwedros yw hon. Am y cantref canoloesol gweler Caerwedros.
Pentref bychan gwledig neu amlwd yn ne Ceredigion yw Caerwedros. Mae'n gorwedd tua dwy filltir a hanner i'r de o'r Cei Newydd a milltir a hanner o lan Bae Ceredigion, ar godiad tir rhwng afonydd Sodren a Ffynnon Ddewi. Mae'n rhan o gymuned Llandysiliogogo.
Codwyd Castell Caerwedros, ar gyrion y pentref presennol, gan yr Arglwydd Richard de Clare tua'r flwyddyn 1110 pan ymosododd y Normaniaid ar Geredigion. Fel yn achos y pentref ei hun, fe'i enwir ar ôl cwmwd Caerwedros, un o bedwar cwmwd cantref Is Aeron.
Mae'r pentrefi bychain cyfagos yn cynnwys Llwyndafydd, Nanternis a Cross Inn.