Llangynfelyn
Oddi ar Wicipedia
Pentref, plwf a chymuned yng ngogledd Ceredigion yw Llangynfelyn, weithiau Llancynfelyn. Saif i'r gogledd-dwyrain o'r Borth ar y ffordd B4353, fymryn i'r de o aber Afon Dyfi a Chors Fochno.
Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Tre'r-ddôl a Thre Taliesin. Ar aber Afon Dyfi mae Traeth Maelgwn neu Traeth Maelgwyn; yma yn ôl traddodiad y dewiswyd Maelgwn Gwynedd yn brif frenin Cymru. Roedd y bardd Deio ab Ieuan Du yn frodor o'r plwyf.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 641.