Llangeitho
Oddi ar Wicipedia
Pentref yng nghanolbarth Ceredigion yw Llangeitho. Saif ym mhen uchaf Dyffryn Aeron ar lan ddwyreiniol Afon Aeron. Mae'r pentref ar groesfordd ar y B4342 7 milltir i'r gogledd o Lanbedr Pont Steffan.
Am ganrifoedd bu Llangeitho'n gadarnle i'r iaith Gymraeg, ond cafwyd mewnlifiad mawr yn y 1970au a arweiniodd at gwymp yn y canran o'r boblogaeth sy'n medru'r iaith o 83% yn 1971 i 55% yn 1981. Yn ôl cyfrifiad 2001 y ffigwr rwan yw 57%.
Mae Llangeitho yn enwog yn hanes Cymru fel man geni y diwygiwr Methodistaidd Daniel Rowland, a aned yno yn 1713. Gwasanethodd fel curad yn Nantcwnlle a Llangeitho. Cododd gapel yn Llangeitho yn 1760 a ddaeth yn adnabyddus ledled Cymru fel canolfan Fethodistaidd. Tyrai bobl yn eu miloedd o bob rhan o'r wlad i wrando ar ei bregethau yn y capel hwnnw. Cafodd ei gladdu yn y pentref a cheir cofgolofn iddo yno. Cafwyd dau gapel arall i gymryd lle'r hen un, y cyntaf yn 1764 a'r ail yn 1814.
Mae eglwys Llangeitho, sy'n sefyll ar ochr ogleddol y pentref, yn hynafol ond cafodd ei hatgyweirio'n sylweddol ar ddiwedd y 19eg ganrif a difethwyd yr ysgrîn ddwbl ganoloesol hardd a'r hen risiau pren yn arwain i'r groglofft. Enwir yr eglwys a'r plwyf ar ôl Sant Ceitho. Ceir Ffynnon Geitho gerllaw; dywedir fod ei dŵr yn oer yn yr haf ond yn gynnes yn y gaeaf.
[golygu] Ffynhonnell
- T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Llyfrau'r Dryw, 1952)