Llangrannog
Oddi ar Wicipedia
Llangrannog Ceredigion |
|
Mae Llangrannog yn bentref ar arfordir gorllewin Cymru, yn sir Ceredigion. Mae ganddi 771 o drigolion, a 51% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).
Mae'n gartref i Wersyll yr Urdd.
Mae gan y pentre ddwy dafarn, Y Ship a'r Pentre Arms. Mae cysylltiadau cryf rhwng y Pentre Arms a Bois y Cilie. Cafodd Dylan Thomas ei wahardd o'r dafarn am helpu ei hunan i'r cwrw.