Plwmp
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan yn ne Ceredigion yw Plwmp. Mae'n gorwedd ar yr A487 rhwng Aberaeron ac Aberteifi, tua tair milltir i'r de-orllewin o bentref Synod Inn, ac yn rhan o gymuned Llandysiliogogo.
Mae'r pentref yn gorwedd ar groesffordd wledig sy'n ei gysylltu ag Aberteifi, Aberaeron, Llwyndafydd a Ffostrasol.