Felinfach, Ceredigion
Oddi ar Wicipedia
Pentref yn Nyffryn Aeron yng nghanolbarth Ceredigion yw Felinfach. Gorwedda ger y briffordd A482 fymryn i'r de o bentref Ystrad Aeron, tua hanner ffordd rhwng Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan. Mae yng nghymuned Llanfihangel Ystrad. Yn 2004 roedd ward Felinfach a 579 o bleidleiswyr. Mae'r rhan fwyaf o boblogaeth y pentref yn byw yn un o ddwy stâd Bro Henllys a Bryn Salem.
Mae Felinfach yn nodedig am Theatr Felinfach.