Ceinewydd
Oddi ar Wicipedia
Ceinewydd Ceredigion |
|
Mae Ceinewydd neu Y Ceinewydd (Saesneg New Quay) yn dref fechan ar arfordir Ceredigion. Mae ganddi 1085 o drigolion, a 47% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001). Mae'r A486 yn ei chysylltu â Llandysul a Chaerfyrddin.
Mae'n bentref eithaf diweddar -- nid oes golwg ohoni ar fapiau tan canol y ddeunawfed ganrif -- ond yn fuan dechreuodd dyfu fel pentref pysgota. Does dim dwywaith fod smyglo hefyd yn ran pwysig o'r economi leol ar yr adeg hon. Tua chanol y 19eg ganrif, daeth Ceinewydd yn borthladd pwysig yn darparu calch i'r ffermydd lleol. Adeiladwyd sawl llong yno hefyd. Ond gyda dyfodiad y rheilffordd i'r trefi cyfagos, daeth diwedd i bwysigrwydd y pentref. Bellach, twristiaeth yw diwydiant pennaf Ceinewydd.